So’r ffordd adref rio’d ’di teimlo mor hir.

Fel arfer, ras wyllt ar ddiwedd pnawn dydd Gwener fydd hi. Penwythnos gartre’ am ’mod i wedi bod yn byw’n rhy wyllt: gormod o yfed, neu ormod o weitho, neu ormod o rywun sy’n torri ‘nghalon. Mae’r ddinas ’ma mor wyllt, ac adref mor addfwyn.