Mae cwsmeriaid cwmni gwerthu pysgod yn y gogledd wedi dyblu yn ystod cyfnod y Covid.

Bellach mae yna 1,000 o bobol yn aelodau o glwb Bwyd Môr Menai, ac yn derbyn rhestr siopa wythnosol drwy neges destun ac arno amrywiaeth o bysgod yn syth o’r môr a physgod wedi eu cochi.

Mae’r cwmni hefyd yn paratoi danteithion sy’n cynnwys pate macrell yn eu cegin ym Methesda yng Ngwynedd.