Fi’n credu mai’r comedïwr, Frankie Boyle, fyfyriodd, flynyddoedd yn ôl nawr, mai Twitter yw’r fersiwn newydd o rwgnach i’ch hun ar y soffa.

Ni gyd yn neud e, nagyn ni? Rhyw broffesional yn ymdrechu’n galed i neud soufflé ar Masterchef, a’i gyflwyno fe’n browd i’r beirniaid… “ti’n galw hwnna’n soufflé?? Gallen i neud gwell soufflé gyda’n nwylo yn ’y mhoced!” medde fi, sy heb erioed drïo neud soufflé, a hynny tra’n byta ail takeaway’r wthnos.