Mi fyddai’n ddiddorol gwybod a oes gynnon ni hawl i arian yn ôl, gan gyrff fel y BBC a phapurau mawr Llundain, hyd yn oed y rhai ‘right-on’ fel y Guardian a’r New Statesman.

Ers misoedd bellach, mae’r rhan fwya’ o’r trafodaethau a’r ystadegau am y pandemig wedi bod am Loegr efo dim ond rhyw amnaid fach achlysurol i gyfeiriad yr Alban ac yn llai aml fyth i gyfeiriad Cymru.