Wedi blynyddoedd yn cyfansoddi tameidiau o ganeuon, mae Lisa Angharad newydd ryddhau ei sengl unigol gyntaf.

Fe gafodd ‘Aros’ ei recordio ar gychwyn cyfnod y cloi mawr, ac mae hi’n gân groovy llawn egni sy’n donic yn y dyddiau rhyfedd hyn.

Eisoes yn adnabyddus am ganu yn y triawd acapela Sorela, a chyflwyno pytiau digrif a byrlymus ar raglen Jonathan, mae Lisa Angharad wedi defnyddio’r cyfnod dan glo i gychwyn gyrfa solo… ac mae hi wrth ei bodd yn cael rhyddhau ‘Aros’.

“Mae yn teimlo yn ofnadwy o gyffrous achos, yn fwy na dim byd, mae fe’n rhywbeth dw i wedi gallu cynhyrchu yn ystod lockdown,” eglura’r gantores.

“Trwy gydol y lockdown, rydw i wedi bod yn teimlo yn really useless ac yn teimlo fel bod fi ddim yn bod yn gynhyrchiol o gwbl.

“Felly mai’r ffaith fod y sengl mas yna, yn atgoffa fi bo fi wedi creu rhywbeth yn ystod y cyfnod clo…

“Rydw i wedi bod yn sgrifennu pytiau bach o ganeuon ers MOR hir, a digwydd bod, wythnos gynta’ lockdown, daeth y syniad yma i fy mhen i, a wnes i jesd gorfodi fy hunan i greu cân gyfan mas ohono fe.

“Achos mae pob peth dw i’n sgwennu yn eitha’ byr, ac mae’r gân yma yn really byr – dwy funud ac un deg saith eiliad. Really byr!

“A fi wastad wedi meddwl: ‘O! Sdim digon ‘da fi i greu cân’.

“Ond wnaeth Rhys [Gwynfor, y canwr], fy nghariad, berswadio fi, fel: ‘Cym on! Gorffen y gân yma fel bod gen ti rywbeth i’w ryddhau.’

“A dyna be ddigwyddodd. Ac mae e’n bendant wedi rhoi hwb i mi wneud mwy ohono fe, achos mae e’n teimlo yn grêt i’w glywed e’ ar y radio.”

Mae yna ail sengl ar y ffordd, ac mae gan Lisa Angharad lwyth o hanner-syniadau am ganeuon sy’n aros i gael eu gwireddu.

“Bydd hi’n fater o gwblhau’r holl stwff yr ydw i wedi bod yn sgwennu dros y ddeng mlynedd ddiwethaf yma.

“Mynd yn ôl ac edrych ar rai o’r syniadau yma – maen nhw i gyd ar voice notes ar fy ffôn – a chreu rhywbeth mas ohonyn nhw.”

Mae’n swnio fel bod digon o ddeunydd wrth gefn i greu albym?

“Oes, mae gyda fi ddeunydd ar gyfer albym o ganeuon… caneuon sydd yn funud o hyd!

“Ar un tro, wnes i feddwl y bydde hynny yn eithaf cool, sdim neb wedi gwneud hynna – rhyddhau albym gydag ugain cân munud o hyd.

“Wnes i feddwl gwneud hynna, ond wedyn wnes i sylweddoli fydde’r radio fwy na thebyg ddim moyn cân sy’n funud o hyd!”

“Fi ddim yn lico lot o bethau yn mynd ymlaen mewn cân” 

Mae Lisa Angharad wedi cael ymateb da iawn i ‘Aros’ ers cyhoeddi’r gân ar derfyn mis Mehefin.

“Hon yw fy sengl gynta’ i, a bydde pobol yn greulon iawn petae nhw yn dweud wrtho fi mai dyma’r peth gwaethaf maen nhw erioed wedi ei glywed, ac yn ei chasáu hi!

“Achos dyma’r gân gyntaf i fi erioed ryddhau, felly rydw i’n hollol newydd.

“Yn amlwg, mae ffrindiau chi yn mynd i gefnogi, achos rydych chi’n caru eich gilydd.

“Mae Rhys yn ofnadwy o gefnogol. Fe sydd wedi helpu fi i wneud hyn, helpu i greu y demo… heb Rhys, bydde hwn ddim wedi digwydd…

“Ac o ran pobol fi ddim yn ’nabod cystal, rydw i wedi cael ymateb ar social media eu bod nhw yn falch bod cân hapus, cheerfull mas.

“Achos gwawdio’r idiom ‘daw eto haul ar fryn’ mae’r gân.

“Achos mae e’n dweud: ‘daw’r haul ddim nôl ar y bryniau, achos mae e’ yna o’ch blaenau chi – stopwch peipo ymlaen am ‘daw eto haul ar fryn’! Mae’r tywydd wedi bod yn ffantastig, mae’r haul yna!’

“Felly ie, gwawdio hynna [y mae’r gân gafodd ei chreu yn ystod tywydd braf cychwyn y cloi]…

“A fi’n credu, erbyn nawr, mae pawb jesd yn ffed-yp ac maen nhw moyn clywed rhywbeth hapus.”

Mae ‘Aros’ yn gân gyflym o ran tempo, gyda phiano, bass, dryms a llais wedi eu recordio mewn llefydd gwahanol.

Does dim ffrils na ffilars, a dyna’r bwriad.

“Rydw i’n eitha’ opinionated, o ran fi ddim yn lico lot o bethau yn mynd ymlaen mewn cân, yn offerynnol, o gwbl,” meddai Lisa Angharad yn bendant.

“Os fyswn i wedi cael dewis, jesd piano a llais bydde fe.

“Rydw i’n ffan o Carole King, hi yw ysbrydoliaeth y gân yma.

“Fi wastad wedi bod wrth fy modd gyda’r gân ‘I feel the earth move’.

“A Rhys sydd wedi gorfod pwyntio mas i fi: ‘Mae gitâr fas fanna ti’n gwybod’.

“Ac unwaith fi’n gwrando, fi fel: ‘O! Ie!’

“Achos i fi, cwbwl yw e’ yw Carole King a piano – dyna’r cwbwl fi actually yn clywed… ond mae dryms arno fe…”

Osian Candelas sy’n chwarae’r dryms ar ‘Aros’, Twm Dylan ar y bass, a’r cerddor jazz Amane Suganami ar y piano.

“Dw i wrth fy modd gyda pha mor syml mae e’n swnio, dw i ddim yn ffan o gitârs o gwbwl,” meddai Lisa Angharad.

“Bydd byth dim electric gitâr yn dim un o fy nghaneuon i!”

Animeiddio fideo a siarad secs

Sioned Medi gafodd y gwaith o animeiddio fideo ar gyfer ‘Aros’.

Yr artist yma wnaeth greu’r gwaith celf ar gyfer podlediad Siarad Secs Lisa Angharad i BBC Cymru.

“Gan nad oeddwn i’n gallu creu fideo yn ystod lockdown, gyda fi ynddo fe… wnes i holi Sioned i’w wneud e’, ac mae e’n llawn pastels ac yn bert ofnadwy… mae’r haul yn dod fewn ac allan o’r shot, yn chwareus… fideo mor ciwt a gorgeous a fi mor hapus gyda fe,” meddai’r gantores.

Fe gafodd Siarad Secs ei recordio yn bodlediad i BBC Cymru, ac mae wedi creu argraff gydag ail gyfres eisoes wedi ei chomisiynu.

Hefyd, mae yn un o dair sioe ar restr fer o’r podlediadau Cymraeg gorau yn y British Podcast Awards – mi fydd yr enillydd yn cael ei ddatgelu tros y penwythnos, mewn seremoni ar y We.

“Rydw i’n really chuffed, achos dyma’r podlediad cyntaf i fi ei wneud, erioed,” meddai’r cerddor 32 oed.

“Wnes i wir fwynhau e’. Roeddwn i’n apprehensive.

“Roeddwn i’n gwybod bod lle a marchnad iddo fe, ond roeddwn i yn apprehensive achos roeddwn i wir moyn iddo fe fod yn llwyddiant.

“Roeddwn i eisiau gwneud job dda ohoni, achos roeddwn i’n gwybod falle dele’r cyfle ddim eto.

“Petai hon yn fflop, bydden i wedi sbwylio pethe i bawb, felly roedd eitha’ pwysau.

“Ond roedden ni’n gwybod, tra’n recordio fe, bod pobol yn mynd i’w fwynhau e’ a ffeindo fe’n ddiddorol, achos dyma’r tro cyntaf i bobol siarad am ryw yn Gymraeg mor, mor normal.

“Neb yn bod yn weird, neb yn ychwanegu gormod o hiwmor, neb yn bod yn rhy academaidd – jesd y math sgwrs ti’n cael gyda ffrindiau.”