Mae un o gyfansoddwyr mwyaf ffynci Cymru, Alun Gaffey, bellach yn perfformio dan yr enw GAFF.
Bydd yn adnabyddus i selogion y Sîn Roc Gymraeg fel canwr a chyfansoddwr caneuon bachog, sionc ac aml-haenog sy’n cynnwys synnau synth, curiadau dyfeisgar a gitârs… megis ‘Bore da’ ac ‘Yr 11eg Diwrnod’ oedd ar ei albwm Llyfrau Hanes yn 2020.