Portread o Osian Wyn Evans
Mae peiriannydd sy’n gyfrifol am ddatblygu nifer o apiau Cymraeg yn awyddus iawn i feithrin cariad plant tuag at ddarllen.
Osian Wyn Evans sy’n gyfrifol am greu llwyfan digidol newydd i wella llythrennedd mewn addysg Gymraeg.
Mae’r peiriannydd meddalwedd a thad i dri yn byw ym mhentref bychan Porthyrhyd yn Sir Gaerfyrddin.