Mae “cynnydd a heriau parhaus” i’w gweld yn adran achosion brys Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân, yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Daw eu casgliadau ar ôl iddyn nhw gynnal arolygiad dirybudd o’r adran, sy’n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Nododd yr arolygiad, gafodd ei gynnal dros ddau ddiwrnod ym mis Hydref, heriau systemig parhaus sy’n effeithio ar y gallu i ddarparu gofal diogel cyson.
Ond nododd hefyd gynnydd cadarnhaol ers arolygiad blaenorol yr adran yn 2022.
Roedden nhw’n “siomedig” wrth nodi bod yr ystafell aros a’r dderbynfa gorlawn yn parhau i amharu ar breifatrwydd ac urddas cleifion a’u gallu i gael gofal amserol, medden nhw.
Roedd oedi o ran llif cleifion yn ychwanegu at hyn, wedi’i achosi’n bennaf gan heriau o ran rhyddhau cleifion ar draws y system gyfan sy’n effeithio ar yr adran.
Roedd yr arolygwyr yn “pryderu” am oruchwyliaeth annigonol staff yn yr ardaloedd aros, oedi cyn cwblhau asesiadau risg, ac achosion lle nad oedd cleifion wedi cael meddyginiaeth lleddfu poen mewn modd amserol.
Gofynnodd yr Arolygiaeth am i welliannau gael eu gwneud ar unwaith mewn perthynas ag asesiadau risg, rheoli meddyginiaeth, a gwiriadau o gyfarpar.
Peth cynnydd
Roedd gwelliannau wedi’u gwneud ers yr arolygiad blaenorol, meddai’r Arolygiaeth, gan gynnwys cyflwyno system frysbennu electronig sydd wedi helpu i wella effeithlonrwydd prosesau brysbennu cleifion, a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i adeiladu ardal aros estynedig, gyda’r nod o atal gorlenwi a gwella gwelededd staff.
Er bod pwysau ar lefelau staff nyrsio o hyd, mae’r rhain wedi sefydlogi ers yr arolygiad blaenorol, gyda llai o ddibyniaeth ar staff asiantaeth a chyfraddau cadw gwell.
Nododd yr arolygwyr effaith mwy o hyfforddiant a mentrau cymorth, gan gynnwys nyrs datblygu ymarfer ddynodedig.
Mae dros 85% o’r staff wedi cwblhau hyfforddiant gorfodol, ac mae systemau i gasglu adborth gan gleifion, fel codau QR, bellach ar waith er mwyn helpu i wella gwasanaethau.
‘Pwysau o hyd’
Er gwaetha’r gwelliannau hyn, mae pwysau systemig o hyd, medd yr arolygwyr.
Roedd statws uwchgyfeirio uchel parhaus ar draws y bwrdd iechyd ar adeg yr arolygiad, gydag oedi cyn rhyddhau hyd at 400 o gleifion.
Mae gwaith adnewyddu yn mynd rhagddo yn ardal aros yr adran, ond fydd y gwaith hwnnw ddim wedi’i gwblhau tan y gwanwyn, sy’n golygu na chaiff y pwysau ei liniaru ar unwaith.
Fe wnaeth yr arolygwyr ganmol proffesiynoldeb, tosturi ac ymrwymiad y staff i ddarparu gofal o dan amodau heriol.
Fodd bynnag, mae’r adran yn dal i fod dan bwysau, ac mae materion systemig o fewn y bwrdd iechyd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ehangach yn parhau i effeithio ar y gallu i ddarparu gofal cyson.
‘Calonogol’
“Mae’r arolygiad hwn yn dangos ymroddiad y staff sy’n gweithio dan bwysau enfawr a’r heriau sylweddol a wynebir o hyd o ran darparu gofal diogel, amserol ac urddasol,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
“Mae’n galonogol gweld y cynnydd y mae’r adran yn ei wneud, ond mae angen gwneud ragor o welliannau ar frys er mwyn mynd i’r afael â’r materion systemig sy’n effeithio ar lif cleifion a’r gofal gaiff ei ddarparu.
“Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda’r bwrdd iechyd i sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud, fel bod cleifion yn cael y gofal o ansawdd uchel maen nhw’n ei haeddu.”