Mae ymateb chwyrn wedi bod i’r cyhoeddiad na fydd tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn cael gwerthu alcohol o gwbl ac y bydd rhaid iddynt gau am chwech yr hwyr.
Mae arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig wedi disgrifio’r cyhoeddiad fel cam gwael sydd yn “annheg” ac yn “anghymesur”.
Tra bod undebau wedi rhybuddio y gallai’r newid cyn y Nadolig fod yn “ddinistriol” i weithwyr a busnesau sydd bellach wedi bod yng nghau fwy nag ar agor.
Bydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym nos Wener, Rhagfyr 4.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Mark Drakeford fod gosod y cyfyngiadau newydd ar y diwydiant lletygarwch yng Nghymru yn “destun gofid mawr”.
Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies, mae’r cyfyngiadau yn annheg ar ardaloedd â chyfraddau isel o’r haint.
Dywedodd fod y cam yn un “anghymesur” a bod y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i alw am ddull rhanbarthol i fynd i’r afael â Covid-19 yng Nghymru.
“Daw hyn ar ôl i nifer o fusnesau fuddsoddi cannoedd, ac mewn rhai achosion, miloedd ar wneud adeiladau a busnesau mor ddiogel â phosib.
“Wrth edrych tua’r Nadolig, os bydd thafarndai a chaffis ddim yn gwerthu alcohol gyda bwyd, mae perygl y bydd pobol wedyn yn yfed gartref mewn grwpiau. Mae’r holl dystiolaeth yn dangos fod ymddygiad fel hyn yn fwy tebygol o achosi lledaeniad.”
‘Cyfyngiadau difrifol’
Eglurodd Cymundod Bwytai Cymreig Annibynnol sydd yn cynrychioli Bwytai Annibynnol yng Nghymru fod y cyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd mwyafrif o’r sector wedi bod ynghau fwy nag ar agor eleni.
“Roeddem i gyd wedi cynllunio ar gyfer cyfnod clir o fasnachu hyd at y Nadolig”, meddai’r Gymundod ar Twitter.
“Dyna oedd Llywodraeth Cymru wedi gaddo i ni, ond mae’r cyfyngiadau difrifol a gyhoeddwyd heddiw yn ergyd drom i’r rhai sydd wedi gweithio’n galed i wneud y sector lletygarwch yn ddiogel.
“Mae’r rheolau’n ddryslyd ac wedi newid sawl gwaith ond golyga’r cyfyngiadau diweddaraf y byddwn wedi bod ynghau fwy nag ar agor eleni.”
Fodd bynnag maent wedi croesawu’r pecyn cefnogaeth a galw ar y Llywodraeth i sicrhau ei fod yn cyrraedd y busnesau mor fuan â phosib.
“Lletygarwch yn talu’r pris.”
Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r cymorth ariannol “cyn gynted â phosib”.
“Mae hyn yn mynd i fod yn hynod heriol i’r sector lletygarwch ac mae’n destun gofid mawr ein bod ni wedi ein cael ein hunain yn y sefyllfa hon,” meddai Gweinidog Economi Cysgodol Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Ond yn ei barn hi’r sector lletygarwch sydd yn talu’r pris am fethiannau’r Blaid Lafur.
“Galwodd Plaid Cymru am fesurau llymach wrth i ni ddod allan o’r ‘Toriad Tân’ – gan gynnwys llacio cyfyngiadau yn fwy graddol a gwneud y gorau o allu profi Cymru er mwyn cael canlyniadau nol mewn 24 awr.
“Methodd Llafur â gwneud hynny a nawr mae lletygarwch yn talu’r pris.”
‘Cau a cholli swyddi yn sicr o ddigwydd’
Mae’r cyhoeddiad heddiw “yn ddinistriol i sector lletygarwch Cymru”, meddai Cyfarwyddwr CBI Cymru, sy’n cynrychioli busnesau yng Nghymru,
“Mae tafarndai, bwytai a siopau a ddylai fod yn llawn bwrlwm yr adeg hon o’r flwyddyn bellach yn wynebu dyfodol hynod ansicr, gyda chau a cholli swyddi yn sicr o ddigwydd,” meddai.
“Gallai colli’r cyfnod masnachu hollbwysig dros y Nadolig fod yr hoelen olaf.”
Mae Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru), hefyd wedi galw am eglurder er mwyn i fusnesau lletygarwch yng Nghymru wneud y mwyaf o Gynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mae’r cyfyngiadau’n golygu bydd oriau a shifftiau gweithwyr yn cael eu torri cyn y Nadolig,” meddai.
“Mae’r Cynllun Cadw Swyddi yno i leihau colli incwm pan fydd cyfyngiadau fel hyn ar waith.
“Rhaid i gyflogwyr ystyried ar frys sut i ddefnyddio’r cynllun hwn i’r eithaf – dylen nhw roi gweithwyr ar ffyrlo am unrhyw oriau a gollwyd fel bod eu hincwm yn cael ei ddiogelu gymaint â phosib.”