Mae perchnogion tafarndai yng Nghymru wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gau tafarndai, bariau, bwytai a chaffis am chwech yr hwyr a’u hatal rhag gwerthu alcohol i’w yfed yn y fangre.
Mae sawl tafarn wedi penderfynu cau eu drysau yn sgil y cyhoeddiad, wrth ddweud bod y costau rhedeg yn gorlethu’r manteision o agor heb gwrw.
Maent hefyd wedi rhybuddio gall olygu bod mwy bobl am ymgynnull yn anghyfreithlon yn eu cartrefi.
Mi fydd hynny, yn ôl Dewi Siôn, perchennog tafarn Y Siôr ac Y Llangollen ym Methesda, yn creu sefyllfa fwy peryg fyth.
“Mae o’n hollol stupid”
“Mae o’n hollol stupid – does ’na jyst ddim sens yn y peth o gwbl,” meddai Dewi Siôn.
“Mae o fel dweud wrth McDonalds gewch chi agor ond gewch chi ddim gwerthu burgers na chips!”
Dywedodd bod y rhan fwyaf o bobl sy’n ymweld â thafarndai yn parchu’r rheolau. A does dim croeso i’r rhai sydd ddim, meddai.
“Dyna ydi’r holl bwrpas mynd i dafarn,” meddai “ti’n cael peint ac mae rhywun yna i wneud yn siŵr fod pawb yn ymddwyn yn gyfrifol – dydi hynny ddim yn mynd i ddigwydd mewn tai.”
Rhybuddiodd y byddai mwy bobl yn ymgynnull yn anghyfreithlon yn eu cartrefi.
“Os dydi’r Llywodraeth ddim yn meddwl bod hynny’n mynd i ddigwydd, maen nhw’n byw yn gwlad cw-cw… a does ganddyn nhw ddim syniad am be maen nhw’n siarad.”
“Does ‘na ddim point trio agor heb allu gwerthu alcohol”
Prin dwy awr wedi’r cyhoeddiad, dywedodd John Evans, perchennog Y Black Boy yng Nghaernarfon ei fod am gau’r dafarn yn gyfan gwbl, tan fis Ionawr.
“Ar y funud, dani’n meddwl bo’ ni am gau tan fis Ionawr… neu yn Saesneg until futher notice… achos dydw i ddim yn gweld y Llywodraeth yn newid hyn dros y flwyddyn newydd.
“I ddweud y gwir does ‘na ddim point trio agor heb allu gwerthu alcohol – pub ydyn ni ar ddiwedd y dydd.”
Dywedodd ei bod hi’n rhatach i gau yn gyfan gwbl, nag trio agor o dan y cyfyngiadau newydd.
Wrth drafod goblygiadau hynny i ddyfodol y busnes a swyddi ei staff, dywedodd:
“Dydyn ni ddim wedi mynd mor bell â hynny eto,” meddai, “ond mi ydan ni’n poeni am ein gwaith, mae’r staff yn poeni am eu gwaith ac mae o’n drist – mae o’n effeithio arna ni i gyd.”
“Dwi’n meddwl fod pawb yn bryderus iawn.”
“Agor a chau” drwy’r adeg yn rhwystredig
Tafarn arall sydd wedi penderfynu cau yn sgil y cyhoeddiad heddiw yw Yr Hen Lew Du, Aberystwyth.
“Does dim pwynt i ni agor – rhyw hanner agor fydde fe,” meddai’r perchennog Sara Beechey.
“I fod yn onest, y peth sydd fwyaf siomedig, yw’r busnes agor a chau ’ma drwy’r adeg.
“Dwi’n ffeindio hynny’n anodd iawn… wrth gwrs y’ch chi’n archebu stoc… bwyd a diod… i agor am gyfnod ac wedyn chi’n gorfod cau lawr a chi ddim yn guaranteed o allu gwerthu neu gael gwared ar bopeth – mae hynny’n anodd ac yn gostus ofnadwy.
“Hefyd, mae’n rhaid meddwl am y staff,” meddai, “chi’n gofyn iddyn nhw fod ar gael i chi am gyfnod penodol ac wedyn chi’n gorfod gadael nhw i lawr.”
Dywedodd hefyd nad yw ychydig ddyddiau o rybudd yn ddigon o amser i allu blaengynllunio ac atal colledion ariannol pellach.
Caniatâd i werthu alcohol “i fynd”
Yn ddiweddarach, daeth cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y bydd modd i dafarndai werthu cwrw i fynd, tecawê, os oes gan y tafarnwr drwydded berthnasol.
Mewn ymateb i hynny, dywedodd Dewi Siôn, perchennog dau dafarn ym Methesda:
“Ar ddiwedd y dydd, pan wyt ti’n talu am beint mewn pub… ddim dim ond am yr hylif wyt ti’n talu… ti’n talu am yr hawl i eistedd yna mewn gwres i yfed – dyna ti’n talu am.
“Maen nhw’n gwneud hyn i fyny fel maen nhw’n mynd yn eu blaenau,” meddai, “os ydyn nhw’n troi rownd a deud hyn rŵan, yn amlwg dydyn nhw ddim wedi treulio’r penwythnos yn meddwl hyn allan yn glir.
“Felly pam ddiawl nath y nhw ddim gwneud cyhoeddiad dydd Gwener?”
Bydd y cyfyngiadau newydd yn cael eu hadolygu ar Ragfyr 17, a phob tair wythnos wedi hynny.