Mae Boris Johnson wedi dweud y gallai brechlyn coronafeirws fod ar gael “ymhen ychydig wythnosau, gyda lwc”.

Ddydd Llun, ymwelodd y Prif Weinidog â chyfleuster y cwmni fferyllol Wockhardt yn Wrecsam – lle gobeithir y caiff brechlyn Rhydychen/AstraZeneca ei gynhyrchu.

Dywedodd Mr Johnson wrth ohebwyr: “Gallai hyn – os ydyn ni’n lwcus, os bydd popeth yn mynd yn iawn – fod ar gael mewn ychydig wythnosau’.

“Gallai hyn – a phwysleisiaf ‘gallai’ – fod yn achubiaeth i ddynoliaeth, y brechlynnau hyn… nid dim ond yr un yma yn amlwg, ond yr holl frechlynnau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.”

“Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw’r cymeradwyaethau. Rhaid pwysleisio nad oes unrhyw frechlyn wedi cael cymeradwyaeth MHRA [Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd] eto ond rydym yn amlwg yn gobeithio y bydd [brechlynnau] Pfizer/BioNTech a Rhydychen/AstraZeneca yn cael eu cymeradwyo yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf,” ychwanegodd.

Y pandemig nesaf

Dywedodd Johnson hefyd fod y Llywodraeth yn cyhoeddi “arian ychwanegol” – gwerth £20m – i greu brechlynnau ar gyfer y pandemig nesaf.

Bydd y gronfa aml-flwyddyn, gan ddechrau gydag £20 miliwn, ar gael o’r flwyddyn nesaf a gall cwmnïau gweithgynhyrchu cymwys wneud cais am gymorth gyda’u costau.

Mae’r gronfa wedi’i chynllunio i roi cyfleoedd buddsoddi i weithgynhyrchwyr ledled y Deyrnas Unedig, gwella cadwyni cyflenwi meddyginiaethau, a chreu miloedd o swyddi, meddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn datganiad.

Dywedodd Boris Johnson: “Bydd y gronfa newydd hon o £20 miliwn yn cynyddu capasiti a gwydnwch ein cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu meddyginiaethau a diagnosteg yn sylweddol ac yn ein harfogi i ymladd argyfyngau iechyd yn y dyfodol.

“Drwy gydol y pandemig rydym wedi gweld diwydiant gwyddonol ac arloesedd Prydain yn dod at ei gilydd a bydd y gronfa newydd hon yn gwella gallu gweithgynhyrchu’r Deyrnas Unedig ymhellach fyth.”

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Busnes Alok Sharma:  “Mae cyfleoedd enfawr ar gyfer arloesi mewn meddyginiaethau a diagnosteg, a bydd y gronfa newydd hon yn rhoi’r Deyrnas Unedig ben ag ysgwydd uwchben eraill, gan roi hwb i allu’r Deyrnas Unedig a chreu cyfleoedd economaidd sylweddol ledled y wlad.”