Aeth pum mlynedd heibio bellach ers i Gymru arwain y ffordd trwy gyflwyno system o optio allan ar gyfer rhoi organau.
Ers hynny mae’r un system wedi ei chyflwyno yn Lloegr, a bydd yn dod i rym yn yr Alban y flwyddyn nesaf.
Ers i’r cynllun gael ei gyflwyno yng Nghymru, mae nifer y bobl sy’n rhoi organau wedi cynyddu gan 4%.
Mae 77% bellach yn cytuno i roi organau – y lefel uchaf erioed yng Nghymru – a hynny ar ôl bod mor isel â 58% yn 2015.
‘Trawsnewid bywdau’
“Dros y pum mlynedd diwethaf mae bywydau pobol wedi cael eu trawsnewid ar ôl cael organ,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
“Nid yn unig hynny, ond mae teuluoedd rhoddwyr organau hefyd wedi cymryd cysur o’r ffaith bod eu hanwyliaid wedi rhoi bywyd i eraill.
“Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl o gwbl heb haelioni’r rhoddwyr a’u teuluoedd sydd wedi cefnogi’r system, a hefyd ymroddiad yr holl staff clinigol.”
Ychwanega fod lle i wella o hyd a bod angen i bobol fagu hyder i drafod rhoi organau gyda’u teuluoedd.