Mae’r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol bellach wedi’i wahardd yng Nghymru.
Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus gan yr RSPCA, mae deddf anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru yn dod i rym heddiw, Rhagfyr 1.
Golyga hyn ei bod hi bellach yn drosedd i anifeiliaid gwyllt gael eu harddangos neu berfformio mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.
Wedi i ddeiseb gan yr RSPCA gael ei llofnodi gan tua 9,000 o bobol, mae Cymru yn ymuno â 45 o wledydd eraill ledled y byd sydd wedi atal defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
‘Diwrnod hanesyddol’
“Mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol i les anifeiliaid yng Nghymru – ac yn benllanw’r ymgyrch rydym wedi gweithio arni ers blynyddoedd,” meddai David Bowles, pennaeth materion cyhoeddus yr RSPCA.
“Rydym wedi cael cefnogaeth ysgubol gan y cyhoedd i’r ymgyrch yma – ac roedd eu lleisiau yn bwysig o ran helpu i sicrhau’r ddeddfwriaeth.
“Mae’n dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd er lles anifeiliaid.
“Roedd cefnogaeth drawsbleidiol gref i’r ymgyrch yma yn y Senedd – ac roeddem yn falch o weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac Aelodau’r Senedd i amddiffyn anifeiliaid gwyllt.”
Ychwanegodd Ros Clubb, uwch-reolwr Gwyddonol yr RSPCA, sy’n arbenigo mewn anifeiliaid gwyllt caeth, fod yr elusen wedi bod yn brwydro am newid yn y gyfraith ers tro.
“Mae hyfforddiant gorfodol, llety anaddas, teithiau anodd a grwpiau cymdeithasol annaturiol i gyd yn realiti difrifol i’r anifeiliaid – ond diolch byth, bydd y gyfraith hon yn gwneud gwahaniaeth mawr yng Nghymru.”