Mae’n gyfnod pryderus i 13,000 o staff Arcadia ar ôl i’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Ymhlith brandiau cwmni’r stryd fawr mae Topshop, Dorothy Perkins a Burton.

Bydd Deloitte yn ymgymryd â’r gwaith gweinyddol ar ôl i’r coronafeirws daro gwerthiant y cwmni’n sylweddol.

Mae nifer o staff y cwmni wedi bod yn gweithio i Debenhams, sydd hefyd yn chwilio am gymorth ar ôl mynd i drafferthion ariannol yn gynharach eleni.

Mae gan Arcadia 444 o siopau yng ngwledydd Prydain a 22 dramor, ac mae 9,294 o weithwyr ar ffyrlo ar hyn o bryd.

Dydy’r cwmni ddim wedi cyhoeddi eto y bydd unrhyw swyddi’n cael eu colli a bydd y siopau’n aros ar agor am y tro, gan gynnwys y rhai yn Lloegr fydd yn agor eto yfory (dydd Mercher, Rhagfyr 2) ar ôl i’r cyfnod clo dros dro ddod i ben.

Ymateb

Yn ôl Ian Grabiner, prif weithredwr Arcadia, mae’n “ddiwrnod eithriadol o drist” i’r cwmni, y gweithwyr, cyflenwyr a rhanddeiliaid.

Mae’n dweud mai’r flaenoriaeth ers y dechrau oedd “gwarchod swyddi a sefydlogrwydd ariannol” y cwmni yn y gobaith o oroesi’r pandemig, ond fod y cwmni wedi “wynebu rhwystrau oedd yn rhy ddifrifol o lawer”.

Mae undeb Usdaw yn awyddus i gynnal trafodaethau brys â’r gweinyddwyr i drafod y sefyllfa, meddai llefarydd.

Yn ôl y gweinyddwyr, maen nhw’n “asesu’r holl opsiynau sydd ar gael”, ac mae’n bosib y gallai rhai brandiau gael eu gwerthu, ond bydd y cwmni’n prosesu eu holl archebion Dydd Gwener Gwallgof.

Dywed y gweinyddwyr eu bod nhw’n bwriadu sicrhau y gall yr holl frandiau barhau i werthu a sicrhau perchennog newydd cyn gynted â phosib.

Mae Alok Sharma, Ysgrifennydd Busnes San Steffan, yn dweud y bydd “yn cadw llygad barcud” ar adroddiad y gweinyddwyr, ac mae’n addo cefnogi’r gweithwyr sydd wedi cael eu heffeithio.

Syr Philip Green

Ddoe (dydd Llun, Tachwedd 30), daeth cadarnhad fod cynnig o £50m gan Mike Ashley i helpu Arcadia wedi cael ei wrthod.

Daw hynny wrth i aelodau seneddol alw ar Syr Philip Green, cadeirydd Arcadia, i ariannu’r diffyg yn y cynllun pensiwn i weithwyr, sy’n cyfateb i ryw £350m.

Ymhlith y cwmnïau eraill sydd wedi mynd i drafferthion ers dechrau’r pandemig eleni mae Edinburgh Woollen Mill ac Oasis Warehouse.