Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod cynrychiolwyr o’r diwydiant lletygarwch wedi cysylltu â nhw ar ôl ymateb i wahoddiad gan Lywodraeth Lafur Cymru i drafod y cyfyngiadau coronafeirws newydd a’u heffaith ar y diwydiant.

Ysgrifennodd Sam Evans, Cyfarwyddwr Gwerthiant Rhanbarthol Carlsberg Marston, at y prif weinidog Mark Drakeford ddydd Gwener (Tachwedd 27) ar ôl iddo ddweud ei fod e am ymgynghori â’r diwydiant dros y penwythnos.

Mae Sam Evans yn dweud ei fod yn “bryderus dros ben” ynghylch cyflwyno rhagor o gyfyngiadau ar y diwydiant, yn enwedig yn y gogledd, wrth i ffigurau’r feirws ddangos peth gwelliant yn y sefyllfa’n ddiweddar yn dilyn y cyfnod clo dros dro diweddaraf.

“Dyma fi, yn uwch reolwr ar fragwr mawr yn y Deyrnas Unedig, yn breswylydd yng ngogledd Cymru, yn Gymro ac ar gael yn rhydd i ymgynghori,” meddai.

Ond dywedodd wrth y Ceidwadwyr Cymreig nad yw’r prif weinidog na’i lywodraeth wedi cysylltu â fe i drafod y sefyllfa.

Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig

“Mae’r prif weinidog yn honni ei fod e’n ymgynghori â’r sector lletygarwch o ran cyfyngiadau Llywodraeth Cymru, felly mae’n rhyfedd na fu ymdrech i estyn allan i gwmni mawr fel Carlsberg Marston,” meddai Darren Millar, llefarydd adferiad Covid y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’r sector lletygarwch yng Nghymru eisoes yn dioddef yn sgil cyfyngiadau blaenorol Llywodraeth Cymru, felly mae’r rheolau newydd sy’n dod i rym ddydd Gwener yn ergyd ddinistriol i’r busnesau hynny sydd wedi gweithio’n galed i warchod eu staff a’u cwsmeriaid drwy gyflwyno trefniadau Covid-ddiogel.

“Gydag un o bob deg o’r gweithlu yng Nghymru’n cael eu cyflogi gan fusnesau lletygarwch a gyda chynifer yn dibynnu ar werthiant cyn y Nadolig, mae Llywodraeth Cymru nawr yn peryglu degau o filoedd o swyddi a bywoliaethau.

“Rhaid i’r prif weinidog egluro wrth arweinwyr y diwydiant megis Carlsberg Marston pam nad yw wedi trafferthu i gysylltu â nhw i drafod ei gynlluniau a’r goblygiadau i’w busnesau.”

“Mae dull Cymru gyfan o gyflwyno’r cyfyngiadau hyn yn anghymesur, mae angen ymyrraeth wedi’i thargedu arnom, sy’n cael ei chefnogi gan wyddoniaeth ac sy’n adlewyrchu’r lefelau risg amrywiol mewn gwahanol rannau o’r wlad.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: “Bu trafodaethau rheolaidd gyda’r sector lletygarwch drwy gydol y pandemig drwy grwpiau’r Tasglu Lletygarwch a Thwristiaeth,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys cyrff cynrychioliadol a grwpiau rhanddeiliaid sy’n cynrychioli buddiannau busnesau a’r bobl sy’n gweithio yn y sectorau hyn.

“Parhaodd trafodaethau rhwng Gweinidogion, swyddogion a’r grwpiau hyn drwy gydol y penwythnos a bore Llun.”

Dywedodd y llefarydd ymhellach fod Carlsberg Marston yn aelodau o Gymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain a oedd yn rhan o bob trafodaeth.