Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi bod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2021 wedi’i gohirio yn sgil pandemig y coronafeirws.

Dywedodd yr Urdd eu bod wedi gwneud y penderfyniad “er mwyn gwarchod iechyd a lles aelodau, gwirfoddolwyr a swyddogion yr Urdd yn ogystal â’r cyhoedd”.

Roedd golwg360 yn adrodd am y posibilrwydd yn ddiweddar.

Mae’r Urdd yn bwriadu cynnal Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn 2022, tra bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn symud i 2023, ac Eisteddfod yr Urdd Maldwyn i 2024.

“Nid oedd y penderfyniad i ohirio’r Eisteddfod am flwyddyn arall yn un hawdd,” meddai Siân Eirian, cyfarwyddwr dros dro’r Eisteddfod.

“Ond yn anffodus, o ystyried y sefyllfa sydd ohoni, roeddem yn teimlo nad oedd unrhyw ddewis arall.

“O dan amgylchiadau arferol, byddai ysgolion, adrannau ac aelwydydd ynghyd ag unigolion yn paratoi’n ddiwyd ar gyfer Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth yn fuan iawn yn y flwyddyn newydd, ond mae’r cyfyngiadau presennol yn ei gwneud yn anodd iawn i bawb drefnu ymarferion ar gyfer yr Eisteddfodau – heb sôn am eu cynnal.”

Bwriadu gwneud 2022 yn “achlysur mwy arbennig byth”

“Rhaid blaengynllunio a gwneud y penderfyniad mor fuan â phosib, er mwyn ein cystadleuwyr a’u hathrawon ond hefyd oherwydd y gwaith trefnu a chytundebu gyda’r holl randdeiliad a chwmnïau sy’n rhan allweddol o gynllunio a gosod yr Ŵyl flynyddol,” meddai.

“Rwy’n llwyr ymwybodol gymaint o siom fydd cyhoeddiad heddiw i griw gweithgar o wirfoddolwyr Sir Ddinbych, heb sôn am y plant a phobl ifanc oedd yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i gystadlu ar lwyfannau’r brifwyl.

“Gan obeithio y bydd amgylchiadau yn caniatáu, edrychwn ymlaen at gael croesawu’r Eisteddfod i Ddinbych yn 2022, sef blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd – fydd yn gwneud yr achlysur yn fwy arbennig byth.”