Bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 1) i gynllun ynni llanw ar Ynys Môn.

Yn ôl Menter Môn, sy’n gyfrifol am brosiect Morlais, gallai’r cynllun arwain at greu 160 o swyddi, yn ogystal â chreu ynni dibynadwy carbon isel.

Maen nhw’n bwriadu datblygu safle 35 cilomedr sgwâr o’r môr ger Ynys Lawd, gan osod hyd at 625 o dyrbinau yn y dŵr.

Dywed Menter Môn y gallai’r cynllun ddatblygu i fod ymhlith y mwyaf o’i fath yn y byd.

Bydd y trydan yn cael ei gynhyrchu gan gyfres o dyrbinau llanw, wedi’u lleoli o dan y môr, sy’n defnyddio egni’r llanw i gynhyrchu trydan.

“Rydan ni’n bwriadu datblygu 100 megawat erbyn 2030, a bydd hynny’n cynhyrchu 100 o swyddi tymor hir,” meddai Gerallt Llewelyn Jones o Fenter Môn.

“A bydd hefyd yn creu’r cyfle i gael 60 arall yn y gadwyn gyflenwi.

“Rydyn ni wedi treulio llawer o amser ac wedi rhoi llawer o ymdrech i sicrhau bod ceblau yn cael eu claddu, yn hytrach na bod peilonau’n cael eu codi.

“Mae’r is-orsafoedd ar ddau ben y broses hon wedi’u cynllunio’n ofalus iawn ac wedi’u gosod yn ofalus iawn.

“Bydd rhywfaint o effaith weledol ar y morlyn, ond ein cred yw na fydd hynny’n tarfu mewn unrhyw ffordd yn yr ardal hon.”

Ymateb Rhun ap Iorwerth

“Mae hwn yn gynllun y dylen ni ym Môn fod yn falch ohono am nifer o resymau – mae’n fodd i gynhyrchu ynni gwyrdd cynaliadwy o’r adnoddau naturiol o’n cwmpas, mae’n gyfle i arloesi mewn technegau ac cynhyrchu newydd all gael eu hallforio i’r byd, ac mae’n fodd i greu swyddi a datblygu sgiliau yn lleol,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Ond yr hyn sy’n goron ar y cyfran yw mai menter gymdeithasol leol sydd y tu cefn iddi, sy’n sicrhau bod budd lleol wrth wraidd yr holl gynllun.

“Mae’n bwysig iawn bod unrhyw gwestiynau am effaith weledol neu amgylcheddol yn cael sylw fel rhan o’r broses gynllunio, ac rydw i wedi mynd â chwestiynau felly at y datblygwr fy hun, ond rydw i’n gobeithio y bydd cwblhau’r broses hon yn llwyddianus yn rhoi hyder i bobl bod hwn wir yn brosect gafodd sydd wedi ei greu i warchod a hybu buddianau pobl ac amgylchedd Ynys Môn.”