Gallai Elfyn Evans gael ei goroni’n bencampwr ralio’r byd y penwythnos hwn – y Cymro cyntaf i gael y teitl hwnnw.

Bydd y bencampwriaeth yn dod i ben ym Monza yn yr Eidal, ac fe allai’r Cymro Cymraeg o Ddolgellau ychwanegu ei enw at y llyfrau hanes sydd eisoes yn cynnwys enwau mawr Prydain fel Colin McRae a Richard Burns.

Pe bai’n ennill – sy’n debygol iawn – byddai Evans yn un o bum gyrrwr o wledydd Prydain i fod yn bencampwr byd eleni.

Mae Lewis Hamilton eisoes wedi ennill y teitl Fformiwla Un, Mike Conway enillodd y Bencampwriaeth Gwydnwch yr FIA, tra bod Callum Bradshaw a Freddie Slater wedi ennill Pencampwriaeth Certio’r Byd.

Cefndir

Bydd Elfyn Evans, 31, yn cyrraedd ‘Cadeirlan Cyflymdra’ â blaenoriaeth o 14 pwynt dros y Ffrancwr Sébastien Ogier.

Thierry Neuville sy’n drydydd, 24 pwynt y tu ôl i’r Cymro.

Hyd yn oed pe bai Ogier yn cipio’r uchafswm o bum pwynt sydd ar gael, byddai gorffen yn ail yn ddigon i’r Cymro gael ei goroni.

Ond all Evans a’i gyd-yrrwr Scott Martin ddim fforddio gwneud camgymeriad gyda 30 o bwyntiau ar gael.

“Bydd rhaid i mi fod ar fy ngorau i gyflawni’r nod eithaf,” meddai.

“Er bod llawer o bobol yn gweld y bwlch pwyntiau’n un mawr, mae o’n ben-agored mewn gwirionedd.

“Mae ond yn cymryd un peth i fynd o’i le ac yn sydyn reit, dydych chi ddim ar flaen y frwydr am y bencampwriaeth.”

Monza yn drac anghyfarwydd

Elfyn Evans yw’r unig yrrwr â mwy nag un fuddugoliaeth eleni yn dilyn ei lwyddiant yn Sweden a Thwrci.

Fe hefyd yw’r unig yrrwr i sgorio pwyntiau ym mhob un o’r chwe ras hyd yn hyn.

Mae 16 o gymalau ym Monza, sy’n gyfanswm o 150 o filltiroedd o rasio yn erbyn y cloc.

Mae’r holl brofion yn cael eu cynnal ar drac Fformiwla Un Monza.

Bydd y cymalau ddydd Sadwrn yn cael eu cynnal ar y ffyrdd o amgylch Llyn Como i’r gogledd-ddwyrain o ddinas Milan, a bydd y gyrwyr yn dychwelyd i Monza ddydd Sul i goroni’r pencampwr.

Cafodd Monza ei ychwanegu at y calendr eleni ar ôl i Rali Cymru GB gael ei chanslo oherwydd y coronafeirws.

Ond mae Elfyn Evans yn dweud ei fod e’n gwybod beth i’w ddisgwyl ar ôl bod yn gwneud gwaith ymchwil.

“Maen gynnon ni ddiwrnod yn unig o brofion cyn ras ar ffyrdd tarmac tebyg er mwyn paratoi ac ar ôl ymuno â thîm Toyota ar ddechrau’r flwyddyn, does gen i ddim cymaint o brofiad o yrru’r Yaris ar asffalt,” meddai.

“Mi wnaethon ni rali Monte Carlo ym mis Ionawr ond dydi’r ffyrdd gaeafol hynny yn yr Alpau ddim wir yn cynrychioli’r hyn y byddwn ni’n ei ddarganfod yn yr Eidal.”

Bydd modd gwylio’r cyfan ar wefan WRC+, a bydd darllediadau hefyd ar S4C, BT Sport ac ITV4.