Bydd tîm pêl-droed Casnewydd yn teithio i Forest Green ar gyfer eu gêm gynghrair gyntaf ers cyrraedd trydedd rownd Cwpan FA Lloegr.

Mae eu gwrthwynebwyr wedi cael wythnos o seibiant, tra bod tîm Mike Flynn newydd guro Salford ar ôl gwneud dim ond tri newid.

Mae disgwyl i’r golwr Nick Townsend ddychwelyd, ynghyd â Joss Labadie a Padraig Amond.

Does neb yn y garfan wedi’i anafu wrth i’r Alltudion fynd am seithfed buddugoliaeth mewn naw gêm gynghrair.

Bydd Forest Green yn gobeithio croesawu Scott Wagstaff yn ôl i’r tîm, ar ôl i’r asgellwr wella o anaf i linyn y gâr.

Mae disgwyl i Jayden Richardson wthio am le ar y cae ar ôl bod yn eilydd ar gyfer y gêm yn erbyn Southend wedi iddo fod yn hunanynysu.

Bydd Jake Young, y sgoriwr yn y gêm honno, yn gobeithio dechrau’r gêm ar ôl dod i’r cae yn eilydd y tro diwethaf.