Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn gobeithio adeiladu momentwm wrth i’w dîm groesawu Huddersfield i’r brifddinas heno (nos Fawrth, Rhagfyr 1).

Fe wnaethon nhw guro Luton o 4-0 yn eu gêm ddiwethaf dros y penwythnos, ar ôl cyfnod o bedair gêm heb fuddugoliaeth sydd wedi gweld y rheolwr dan bwysau ar drothwy cyfnod prysur cyn y Nadolig.

Mae Huddersfield bwynt ar y blaen i Gaerdydd yn y gynghrair ar ôl colli dim ond un gêm allan o bedair.

Y fuddugoliaeth dros Luton oedd y bedwaredd yn unig i’r Adar Gleision yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, ond mae Harris yn cydnabod fod angen cysondeb er mwyn cadw eu gobeithion o ennill dyrchafiad yn fyw.

“Fel y gallwch chi ddychmygu, roedd y chwaraewr yn bles iawn ddoe â’u perfformiad unigol ac ar y cyd wrth ddod i mewn, felly roedd yna wefr o amgylch y lle,” meddai.

“Roedd yn berfformiad cryf, yn berfformiad positif dros ben, ond mae angen yr un peth eto i fod yn llwyddiannus.

“Fe wnaeth y chwaraewyr ymateb yn wych ddyd Sadwrn yn erbyn Luton, ond un gêm yn unig oedd hi.

“Dw i ddim am ddileu’r positifrwydd hwnnw ond dyna dw i eisiau ei weld gan y chwaraewyr o hyd.

“Dyna’r her – dod o hyd i’r perfformiad hwnnw’n gyson.”