Bydd merched Cymru’n herio Belarws yn Rodney Parade yng Nghasnewydd am 7.10 heno (nos Fawrth, Rhagfyr 1) yn eu gêm olaf yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2022.

Mae cyrraedd y rowndiau terfynol bellach allan o ddwylo Cymru yn dilyn buddugoliaeth Gogledd Iwerddon o 3-2 yn erbyn Belarws ddydd Gwener (Tachwedd 27).

Symudodd y fuddugoliaeth Ogledd Iwerddon i’r ail safle yn y grŵp, a does dim ond rhaid iddyn nhw wneud cystal neu’n well na Chymru yn eu gêm olaf yn erbyn Ynysoedd Faroe i orffen yr ymgyrch yn uwch na thîm Jayne Ludlow.

“Yn amlwg, rydym yn siomedig ac yn rhwystredig gyda’r ffordd mae pethau wedi troi allan,” meddai Jess Fishlock, capten Cymru, pan siaradodd â’r cyfryngau ddydd Sul (Tachwedd 29).

“Rydym hefyd yn deall ac yn cymryd cyfrifoldeb yn llwyr am sut y daeth i hyn.

“Doeddem erioed am iddo fod allan o’n dwylo ein hunain ac felly, ar hyn o bryd, mae’n bwysig ein bod yn canolbwyntio ar symud ymlaen.

“Ond mae’r ymgyrch wedi bod yn dda i ni ac rydym eisoes yn edrych ymlaen at yr ymgyrch nesaf.”

Rhwystredigaeth

Mae dwy gêm gyfartal yn erbyn Gogledd Iwerddon yn golygu bod tynged Cymru allan o’u dwylo.

Ond er bod rhwystredigaeth ynghylch sefyllfa’r grŵp, mae’r perfformiadau yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf yn cynnig digon o resymau i fod yn optimistaidd ar gyfer y dyfodol.

“Roedd y gemau yn erbyn Gogledd Iwerddon yn gemau y byddem wedi hoffi eu hennill,” ychwanega Jess Fishlock.

“Ond dangosodd y gemau yn erbyn Norwy pa mor agos ydyn ni at gystadlu gyda’r timau gorau.

“Yr unig ffordd rydych chi’n dod drwy hyn yw drwy gael sgyrsiau gonest.

“Roedd llawer ohonom yn gwybod ar ôl gêm Gogledd Iwerddon y byddai allan o’n dwylo.

“Rydym wedi cael y sgyrsiau hynny ac mae’r canlyniad yn argoeli’n dda iawn ar gyfer y dyfodol.

“Mae angen i ni fod yn well yn ein perfformiadau a’n rheolaeth o gemau.

“Mae elfen i ni sydd wedi gwella ond mae elfennau nad ydyn nhw wedi gwella.”

Jess Fishlock heb “unrhyw fwriad i ymddeol”

Yn y cyfamser, mae Jess Fishlock yn dweud nad yw hi’n bwriadu ymddeol.

“Mae gennym garfan dda iawn ar hyn o bryd, ac rydym yn mynd i ganolbwyntio arnom ni ein hunain ac ar gyflwyno perfformiad da ddydd Mawrth i symud i’r ymgyrch nesaf,” meddai.

“Rydym am orffen yr ymgyrch hon yn uchel.

“Does gen i ddim bwriad i ymddeol ar hyn o bryd.

“Yn feddyliol, yn gorfforol ac yn emosiynol, rwy’n dal i fod 100% yma gyda’r grŵp hwn a Chymru.”