Mae timau pêl-droed Cymru wedi cael clywed pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.

Bydd y gemau’n cael eu cynnal ar benwythnos Ionawr 8-11.

Casnewydd yw’r unig dîm o Gymru fydd yn chwarae gartref, wrth iddyn nhw groesawu Brighton a chyn-reolwr Abertawe, Graham Potter.

Taith i Stevenage sydd gan Abertawe, tra bydd Caerdydd yn teithio i Nottingham Forest.