Mae Colin Ingram wedi ymestyn ei gytundeb gyda Morgannwg am ddwy flynedd, gan chwarae fel batiwr tramor yn y gystadleuaeth ugain pelawd.

Bydd y batiwr llaw chwith 35 oed yn opsiwn wrth gefn yn y Bencampwriaeth a’r gystadleuaeth 50 pelawd ac yn chwarae pe na bai’r prif dramorwr Marnus Labuschagne ar gael.

Fe fu’n chwarae fel chwaraewr Kolpak ar ôl ymuno â’r sir yn 2015, gan chwarae ym mhob fformat hyd at 2017 a’r cystadlaethau undydd yn unig wedi hynny.

Fe yw prif sgoriwr rhediadau’r sir mewn gemau ugain pelawd – dros 2,000 ar gyfartaledd o ychydig yn llai na 40 a chyfradd sgorio o 159.

Mae ganddo fe gyfartaledd o fwy na 67 mewn gemau 50 pelawd i Forgannwg, a bron i 40 mewn gemau dosbarth cyntaf.

Bydd e ar gael ar gyfer tymor cyfan y flwyddyn nesaf, ac yn mentora chwaraewyr yr Academi.

‘Wedi cyffroi’

“Dw i wrth fy modd o gael llofnodi’r cytundeb newydd hwn gyda Morgannwg,” meddai Colin Ingram.

“Caerdydd yw lle’r ydw i eisiau bod, dw i wrth fy modd yn chwarae yma ac mae fy nheulu’n hoff iawn o’r ddinas a bod yng Nghymru.

“Dw i wrth fy modd yn chwarae criced T20, ond dw i hefyd eisiau herio fy hun eto yn fformat hir y gêm, a dw i wedi cyffroi o gael y cyfle i wneud hynny gyda’r clwb dw i’n ei garu.

“Dw i wedi bod yn angerddol erioed am helpu’r genhedlaeth nesaf o gricedwry a dw i wedi cyffroi’n fawr o gael gweithio gyda’r chwaraewyr ifainc hyn o Gymru, eu helpu nhw i wella ac i rannu’r wybodaeth dw i wedi ei chaffael ar lefel ryngwladol a lleol.”

‘Chwaraewr o’r radd flaenaf’

“Mae Colin yn chwaraewr o’r radd flaenaf ac yn berson gwych i’w gael yn yr ystafell newid,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae e wedi chwarae o amgylch y byd ac mae’n dod â phrofiad gwerthfawr dros ben i’n chwaraewyr a nawr rydyn ni’n gallu manteisio’n llawn ar y profiadau hyn drwy’r llwybrau i gyd.

“Mae gan Colin gryn brofiad ym mhob un o’r tri fformat ac mae e wedi rhagori i Forgannwg dros y bum mlynedd diwethaf, a bydd e’n opsiwn wrth gefn gwych pe bai ei angen e yn y fformatau hir.

“Mae e’n un o’r ffefrynnau ar nosweithiau’r Blast a gobeithio bod y cefnogwyr wedi cyffroi cymaint â ni i’w weld e’n ôl yn chwarae yng Ngerddi Sophia yn 2021.”