Pa Gymro ifanc a sgoriodd ei gôl gyntaf i’r Adar Gleision? Pa gyn Alarch a ddechreuodd ei gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr? Pa fachgen o Aberystwyth sydd ar dân o flaen gôl? Daw’r atebion i gyd wrth i ni gadw golwg ar y Cymry.

 

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Mae Neco Williams yn cael cyfleoedd yn nhîm cyntaf Lerpwl ar hyn o bryd oherwydd anaf Trent Alexander-Arnold ond nid oedd hi’n wythnos i’w chofio i’r Cymro na’i dîm.

Chwaraeodd 90 munud wrth iddynt golli gartref yn erbyn Atalanta yng Nghynghrair y Pencampwyr ganol wythnos ac er iddo ddechrau yn erbyn Brighton yn y gynghrair ddydd Sadwrn, cafodd ei eilyddio ar hanner amser ar ôl ildio cic o’r smotyn. Gorffennodd y gêm yn gyfartal, gôl yr un.

Chwaraeodd Hal Robson Kanu hanner awr oddi ar y fainc wrth i West Brom godi o’r tri isaf gyda buddugoliaeth gartref dros Sheffield United nos Sadwrn. Nid oedd Ethan Ampadu yng ngharfan yr ynmwelwyr oherwydd anaf.

Roedd buddugoliaeth dda i Leeds yn erbyn Everton ar Barc Goodison ond ar y fainc yn unig yr oedd Tyler Roberts.

Er i Daniel James sgorio ei gôl gyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr ganol wythnos ar ôl dod i’r cae fel eilydd yn erbyn Istanbul Besakehir, nid oedd lle iddo yn nhîm Man U wrth iddynt guro Southampton yn y gynghrair brynhawn Sul.

Dechreuodd Joe Rodon gêm gynghrair i Tottenham am y tro cyntaf ddydd Sul wrth i Jose Mourinho roi ei ffydd yn y Cymro ifanc yng nghanol ei amddiffyn ar gyfer y frwydr fawr ar frig y tabl yn erbyn Chelsea. Talodd hynny ar ei ganfed gyda llechen lân mewn gêm gyfartal ddi sgôr.

Ond ar ôl chwarae i Spurs yn erbyn Ludogerets yng Nghynghrair Europa nos Iau, yn ôl ar y fainc yr oedd Ben Davies a Gareth Bale ar gyfer gêm yn Stamford Bridge, er i Davies ddod i’r cae fel eilydd am y munudau olaf.

Joe Rodon
Joe Rodon

 

 

Y Bencampwriaeth

Yn dilyn dechrau siomedig i’r tymor, cafodd Caerdydd eu canlyniad gorau hyd yma wrth iddynt groesawu Luton i Stadiwm y Ddinas ddydd Sadwrn, ac roedd y Cymry yn ei chanol hi. Dechreuodd pedwar ohonynt wrth i’r Adar Gleision ennill o bedair gôl i ddim.

Roedd cyfle prin i Mark Harris ddechrau gêm a gwnaeth y mwyaf ohono gan sgorio ail ei dîm, hanner foli daclus wedi dim ond naw munud, ei gôl gyntaf i’r clwb yr ymunodd â nhw pan yn saith mlwydd oed.

Kieffer Moore a sgoriodd y drydedd gyda pheniad o gic gornel Harry Wilson, ar ôl iddo yntau greu’r gyntaf i Sean Morrison hefyd. Will Vaulks a oedd y llall a chafodd yntau 90 munud effeithiol yng nghanol y cae.

Prynhawn hir a gafodd y tri Chymro yn nhîm Luton felly; dechreuodd Rhys Norrington-Davies yn yr amddiffyn rhidyllog yr ymwelwyr a daeth Tom Lockyer a Joe Morrell oddi ar y fainc am yr ugain munud olaf, gyda Morrell yn dod yn agos at sgorio gôl gysur gydag ergyd dda o bellter.

Connor Roberts a oedd seren y gêm wrth i Abertawe guro Nottingham Forest i godi i’r pedwerydd safle yn y tabl brynhawn Sul. Y cefnwr de a sgoriodd unig gôl y gêm, yn neidio fel eog i gyrraedd y bêl cyn pawb arall yn y cwrt cosbi. Ar y fainc yr oedd Ben Cabango a Liam Cullen.

Connor Roberts

Dau Gymro arall sydd yn hedfan yn y Bencampwriaeth yw Chris Mepham a David Brooks, gyda Bournemouth yn ail yn y tabl, bwynt yn unig y tu ôl i Norwich ar y brig. Serennodd y ddau wrth iddynt drechu Nottingham Forest ganol wythnos ac fe chwaraeodd y ddau 90 munud mewn gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Rotherham ddydd Sadwrn.

Parhau i straffaglu ym mhen arall y tabl y mae Derby yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Wycombe ddydd Sadwrn ond y newydd da i Tom Lawrence a oedd iddo gael 90 munud yng ngêm gyntaf Wayne Rooney wrth y llyw ar ei ben ei hun. Chwaraeodd Joe Jacobson y gêm i’r gwrthwynebwyr ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Alex Samuel.

Chwaraeodd James Chester a Morgan Fox eu rhan mewn llechen lân wrth i Stoke gael gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Sheffield Wednesday ac fe gafodd Sam Vokes fwy o funudau nag y byddai wedi ei ddisgwyl, yn dod i’r cae fel eilydd cynnar oherwydd anaf i Lee Gregory.

Cafodd Tom Bradshaw chwarter awr yng ngêm gyfartal Millwall ym Mirmingham ac fe wnaeth George Thomas ei ymddangosiad cyntaf ers diwrnod cyntaf y tymor i QPR, yn dod i’r cae fel eilydd am y deunaw munud olaf yng ngholled ei dîm mewn gêm ddarbi yn erbyn Brentford nos Wener.

 

 

Cynghreiriau is

Dim ond tair gêm a oedd yn yr Adran Gyntaf y penwythnos hwn ond roedd diddordeb Cymreig ym mhob un.

Cadwodd Adam Matthews a Chris Gunter lechen lân yn amddiffyn Charlton wrth iddynt drechu Ipswich o ddwy gôl i ddim yn y gêm fawr tua’r brig. Dechreuodd Jonny Williams y gêm hefyd gan chwarae ychydig llai nag awr.

Nid oedd Dylan Levitt yn y garfan eto ac nid yw wedi chwarae i’r Addicks ers dros fis bellach. Cadarnhaodd y rheolwr, Lee Bower, yr wythnos hon nad yw’r gŵr ifanc sydd ar fenthyg o Man U wedi gwneud unrhyw beth o’i le ac mai salwch sydd yn rhannol gyfrifol am ei absenoldeb diweddar.

Nid oedd yr un Cymro yng ngharfan Ipswich ychwaith gyda dim golwg o James Wilson, Emyr Huws na Gwion Edwards.

Chwaraeodd Dion Donohue 90 munud ym muddugoliaeth Swindon yn Rhydychen ddydd Sadwrn a chwaraeodd Wes Burns a Ched Evans eu rhan yng ngêm gyfartal Fleetwood yn erbyn Sunderland nos Wener, Burns yn dechrau ac Evans yn dod i’r cae fel eilydd hanner amser.

 

 

Cwpan FA

Roedd hi’n benwythnos da i sawl Cymro yn y Cwpan FA wrth i’r gemau ail rownd gael eu chwarae.

Mae pedigrî Casnewydd fel tîm cwpan yn y blynyddoedd diweddar yn fyw o hyd wedi iddynt gyrraedd y drydedd rownd eto gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Salford ddydd Sadwrn.

Chwaraeodd pedwar Cymro, Brandon Cooper, Josh Sheehan, Liam Shephard a Tom King. Roedd hwn yn ymddangosiad prin i King yn y gôl a bydd yn falch iawn o fod wedi cadw llechen lân wrth i’r Alltudion ennill o dair gôl i ddim.

Mae rhediad gwych diweddar Luke Jephcott yn parhau wedi iddo sgorio eto ym muddugoliaeth Plymouth yn erbyn Lincoln. Mae’r bachgen o Aberystwyth bellach wedi sgorio chwe gôl yn ei chwe gêm ddiwethaf. Roedd Brennan Johnson yn nhîm y gwrthwynebwyr wrth i’r Pererinion ennill o ddwy gôl i ddim.

Un arall sydd yn dechrau serennu ar arfordir de Lloegr yw blaenwr Portsmouth, Ellis Harrison. Creodd y gŵr o Gasnewydd un gôl a sgorio un arall wrth i’w dîm roi crasfa o chwe gôl i un i King’s Lynn yn Fratton Park ddydd Sadwrn.

Roedd buddugoliaeth gyfforddus i Blackpool yn erbyn Harrogate hefyd gyda Chris Maxwell a Ben Woodburn yn dechrau’r gêm a orffennodd yn bedair gôl i ddim.

Roedd buddugoliaethau brynhawn Sul i Matthew Smith gyda Doncaster yn erbyn Carlisle ac i Regan Poole a’r MK Dons yn Barnet.

 

 

Yr Alban a thu hwnt

Roedd hi’n rownd yr un ar bymtheg olaf yng Nghwpan y Gynghrair yn yr Alban y penwythnos hwn.

Mae Owain Fôn Williams a Dunfermline yn yr wyth olaf ar ôl trechu Arbroath ac felly hefyd Christian Doidge a Hibs yn dilyn buddugoliaeth dros Dundee.

Nid oedd hi’n benwythnos cystal i Aberdeen. Er i Ryan Hedges sgorio yn erbyn Hamilton yn y gynghrair ganol wythnos, roedd yn rhan o dîm a gollodd yn erbyn St. Mirren yn y Cwpan. Ar y fainc yr oedd Ash Taylor ac mae Marley Watkins yn parhau i fod allan gydag anaf.

Nid oedd Rabbi Matondo yng ngharfan Schalke wrth iddynt golli eto yn y Bundesliga ddydd Sadwrn, yn erbyn Borussia Monchengladbach y tro hwn. Parhau y mae trafferthion St. Pauli yn y 2.Bundesliga hefyd; chwaraeodd James Lawrence gêm lawn wrth iddynt golli gartref yn erbyn Osnabruck nos Wener.

Chwaraeodd Aaron Ramsey ychydig dros awr i Juventus yn erbyn Benevento yn Serie A ddydd Sadwrn ond canlyniad siomedig a gafodd ei dîm, gêm gyfartal gôl yr un gartref yn erbyn tîm eu cyn flaenwr, Pippo Inzaghi.

Dydw i dal ddim yn siŵr iawn os yw Rhys Healey yn gymwys i Gymru ai peidio ond fe wnaeth sgorio’r gôl fuddugol wrth i Toulouse guro Niort yn Ligue 2 y penwythnos hwn!

 

 

Gwilym Dwyfor