Mae tîm pêl-droed Abertawe’n bedwerydd yn y Bencampwriaeth ar ôl curo Nottingham Forest oddi cartref o 1-0.

Rhwydodd Connor Roberts am y tro cyntaf y tymor hwn, wrth benio’r bêl i’r rhwyd ar ôl 42 munud.

Wrth gadw llechen lân arall, mae’r Elyrch wedi sicrhau saith pwynt allan o naw yn eu gemau blaenorol wrth gipio buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn Forest ers 2006.

Cafodd yr Elyrch hwb cyn y gêm wrth i Andre Ayew a Marc Guehi ddychwelyd ar ôl anafiadau, ac fe wnaeth Viktor Gyokeres a Jordon Garrick ddychwelyd ar ôl hunanynysu yn sgil y coronafeirws.

Daeth Forest yn agos at sgorio yn y munudau agoriadol, wrth i Sammy Ameobi groesi i lwybr Lyle Taylor yn y cwrt cosbi, a hwnnw’n ergydio heibio’r postyn.

Cafodd Ayew gyfle yn fuan wedyn wrth i Ryan Bennett a Connor Roberts gyfuno i symud y bêl i lwybr yr ymosodwr, wnaeth danio’r bêl dros y trawst.

Daeth cyfle i Forest wrth i Anthony Knockaert wibio ar y tu fewn a dod o hyd i ofod yn y cwrt cosbi, ond fe wnaeth Freddie Woodman arbediad digon syml â’i goesau.

Daeth unig gôl y gêm toc cyn yr egwyl, wrth i Ayew drechu Ameobi wrth gyrraedd y bêl a pheniodd Roberts y bêl i’r rhwyd.

Ail hanner

Bu bron i Ayew ddyblu mantais yr Elyrch yn gynnar yn yr ail hanner, wrth iddo gicio’r bêl dros ei ben heibio’r postyn yn dilyn gwaith creadigol cryf gan Jake Bidwell a Matt Grimes ar yr asgell chwith.

Daeth Forest o fewn trwch blewyn i unioni’r sgôr, wrth i Ryan Bennett daclo’n gryf i atal peniad tua’r gôl, ac fe ddaeth Knockaert yn agos rai munudau’n ddiweddarach gyda foli aeth heibio’r postyn.

Daeth cyfle i Roberts gyda foli, ond fe darodd yr ergyd yn syth at y golwr ar ôl i Korey Smith a Jamal wneud y gwaith caib a rhaw i gynnig y cyfle iddo.

Bydd yr Elyrch yn teithio i Middlesbrough nos Fercher (Rhagfyr 2).

Canu clodydd Connor Roberts

Ar ôl y gêm, roedd Steve Cooper yn barod iawn i ganu clodydd Connor Roberts.

Wrth sgorio’r gôl, tarodd y cefnwr de i mewn i Sammy Ameobi a chwympo’n fflat i’r llawr cyn cael triniaeth feddygol.

Fe gododd e wedyn â llygad ddu.

“Roedd Connor yn ymgorffori ein perfformiad heddiw,” meddai Steve Cooper.

“Fe gawson ni ein cefnwr de [wing-back] yng nghwrt cosbi’r gwrthwynebwyr yn neidio uwchben eu chwaraewr 6’4”, sy’n chwaraewr da iawn, ac yn taro’i ben er mwyn cael gôl i ni.

“Mae e wedi gwneud hynny o’r blaen ac fe fydd e’n ei wneud eto, er ei fod e wedi cael llygad ddu yn sgil hynny.

“Mae e wedi bod yn wych ers i ni ddod i mewn ar ôl y cyfnod clo a’r her iddo fe nawr yw parhau oherwydd fyddwn ni ddim eisiau edrych yn ôl ar ddiwedd y tymor a dweud, “Fe ges i ddechrau gwych i’r tymor, ond ro’n i i fyny ac i lawr wedyn”, ond dw i ddim yn meddwl y bydd hynny’n digwydd gyda fe.”