Mae’r canolwr Johnny Williams yn galw ar gefnogwyr tîm rygbi Cymru i fod yn amyneddgar, gan ddweud y bydd carfan Wayne Pivac “yn parhau i symud yn ei blaen”.

Collodd Cymru o 24-13 yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Cenhedloedd ym Mharc y Scarlets ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 28) – eu seithfed colled mewn naw gêm o dan y prif hyfforddwr newydd.

Ond hwn oedd perfformiad gorau’r ymgyrch, ac fe wnaeth Johnny Williams sefyll allan wrth sgorio cais yn ei ail gêm.

Bydd Cymru’n herio’r Eidal yng ngêm derfynol y gystadleuaeth yr wythnos nesaf, naw wythnos yn unig cyn dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Dw i’n gwybod fod y ffans wedi bod yn mynd yn wallgo’ ac ati, ond rhaid i chi barhau i fod yn amyneddgar gyda ni,” meddai.

“Fe wnawn ni barhau i adeiladu.

“Rydyn ni’n adeiladu ar gyfer [Cwpan y Byd] 2023, ac mae cymysgedd da o ieuenctid a phrofiad, yn sicr.

“Rydyn ni’n mynd i wella o hyd.

“Roedd gwelliant mawr [yn erbyn Lloegr].

“Rydyn ni wedi adennill tipyn o dir, ac fe fyddwn ni’n parhau i symud yn ein blaenau.

“Roedden ni’n barod am y frwydr gorfforol, a dw i’n credu ein bod ninnau’n gorfforol.

“Wrth gwrs doedden ni ddim yn hapus gyda’r sgôr, ond rydyn ni’n hapus gyda’r ffordd rydyn ni’n adeiladu.”