Mae Ellis Genge, prop tîm rygbi Lloegr, yn gwadu iddo daro’i wrthwynebydd Tomas Francis, prop Cymru, â’i ben.

Mae fideo o’r digwyddiad honedig yn ystod y gêm ym Mharc y Scarlets ddoe ar led ar y cyfryngau cymdeithasol.

Collodd Cymru y gêm yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref o 24-13.

Wnaeth y dyfarnwr Romain Poite ddim gweld y digwyddiad honedig ar y pryd, ac mae gan y comisiynydd 24 awr ar ôl y gêm i gymryd camau disgyblu yn erbyn y Sais.

Ond mae Ellis Genge yn dweud nad oedd e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

“Diolch am yr holl adolygiadau TMO ar Twitter ond wnes i ddim taro neb â ‘mhen, diolch am yr holl negeseuon o gefnogaeth heddiw – caru’r criw yma,” meddai.