Belinda Moore yw Pennaeth Rygbi Menywod newydd Undeb Rygbi Cymru.

Mae’r penodiad yn un dros dro, ac mae disgwyl iddi fod yn y swydd am naw mis yn y lle cyntaf.

A hithau’n cyn-Brif Weithredwr Premiership Women’s Rugby yn Lloegr, mae ganddi hanes hir o weithio ym myd chwaraeon.

Bu’n uwch-gyfarwyddwr yn y BBC am gyfnod, ac mae hi wedi gweithio y myd nawdd, darlledu, rheoli rhaglenni a chysylltiadau cyhoeddus.

Ymhlith ei chyn-gyflogwyr eraill mae’r DP World Tour a ‘Team GB’ ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Mae’n wraig i Brian Moore, cyn-fachwr tîm rygbi Lloegr.

Arolwg

Daw penodiad Belinda Moore yn fuan ar ôl i Undeb Rygbi Cymru gwblhau arolwg o gêm y menywod.

Bydd disgwyl maes o law iddi benodi ei holynydd parhaol.

Ymhlith ei chyfrifoldebau eraill mae bod yn gyfrifol am systemau, strwythurau a llwybrau proffesiynol Undeb Rygbi Cymru, gan gynnwys dichonoldeb cystadleuaeth yr Her Geltaidd, paratoi ar gyfer Cwpan y Byd 2025, cytundebau chwaraewyr a gwaith diwylliannol gyda’r garfan genedlaethol, gan gyfrannu hefyd at bwyllgorau’r menyywod a’r Chwe Gwlad.

Ymhlith ei thasgau cyntaf mae cydweithio â phrif hyfforddwr newydd tîm cenedlaethol y menywod, sydd heb ei gyhoeddi eto ond sy’n olynu Ioan Cunningham.

Bydd hi’n atebol i Gyfarwyddwr Rygbi newydd Undeb Rygbi Cymru, ac mae’r Undeb wrthi’n chwilio am yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd honno, gyda Huw Bevan yn y swydd dros dro yn dilyn ymadawiad Nigel Walker.

‘Amser hynod gyffrous’

“Mae hwn yn amser hynod gyffrous i fod yn ymuno â rygbi yng Nghymru, ac i gêm y menywod a’r merched yn enwedig,” meddai Belinda Moore.

“Mae’r gêm oedolion yng Nghymru wedi bod yn broffesiynol ers tair blynedd yn unig, ac mae’n cymryd camau esbonyddol ymlaen.

“Daw’r datblygiadau cyflym hyn â’u problemau cychwynnol eu hunain, wrth gwrs, ac mae fy llygaid ar agor led y pen yn nhermau’r her sydd o’m blaen, ond dw i’n hynod optimistaidd am yr hyn sy’n gallu cael ei gyflawni.

“Mae’r rhain yn amseroedd cyffrous.

“Mae’n flwyddyn Cwpan y Byd, gyda phenodi prif hyfforddwr newydd ar y gweill, a strwythur llywodraethiant a phersonel uwch sydd wedi buddsoddi’n llwyr yng ngêm y menywod a’r merched yng Nghymru.

“Mae cyfradd twf y gêm yno i bawb ei gweld, gyda gêm Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality yn ddiweddarach eleni, sydd am dorri record yn nhermau torf mewn gêm ryngwladol yng ngwledydd Prydain, sy’n arwydd symbolaidd iawn o’r twf hwnnw.

“Ein tasg a’n her yw harneisio’r twf yma, a gwneud y mwyaf o botensial gêm y menywod a’r merched ledled y wlad.”

Yn ôl Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, fe fu penodi rhywun i’r swydd hon yn “flaenoriaeth allweddol”, ac fe fydd y swydd yn “gonglfaen” i’r cynnydd fydd yn cael ei wneud yng ngêm y menywod a’r merched dros y pum mlynedd nesaf wrth gyflwyno strategaeth newydd erbyn 2029.