Mae cefnogwr criced oedd wedi teithio i Sri Lanca wyth mis yn ôl yn gobeithio cael gwaith gyda thîm cenedlaethol y wlad – er mwyn cael mynediad i wylio gemau.

Mae Rob Lewis, dylunydd gwefannau 37 oed, yn dweud y bydd e’n aros yn y wlad hyd nes bod tîm Lloegr yn cael dychwelyd, ar ôl i’w taith ddod i ben yn gynnar ar ddechrau ymlediad y coronafeirws ym mis Mawrth.

Roedd e ar yr awyren i Sri Lanca pan ddaeth y cyhoeddiad ar Fawrth 13 fod taith Lloegr wedi cael ei chanslo, ond fe benderfynodd e aros mewn hostel ger dinas Galle.

Ers teithio i’r wlad, mae e wedi mabwysiadu ci strae ac wedi cael gwaith fel DJ.

Ond mae e hefyd wedi dod yn ffrind i aelodau o dîm criced cenedlaethol Sri Lanca, ac wedi cynnig gweithio iddyn nhw fel cludwr dŵr.

Y gobaith yw y bydd tîm Lloegr yn gallu teithio i Sri Lanca ym mis Ionawr, ac y bydd e’n cael gweithio i dîm Sri Lanca er mwyn cael gwylio’r gemau – hyd yn oed os na fydd cefnogwyr yn cael bod yn y caeau.

Ymateb i flwyddyn heriol

“Mae’r traeth fel arfer yn boblogaidd iawn ymhlith twristiaid ond roedd e’n wag,” meddai am y cyfnod ar ôl dechrau ymlediad y coronafeirws.

“Felly ro’n i’n nofio yn y môr bron bob dydd ac roedd gyda fi’r traeth cyfan i fi fy hun. Roedd yn wallgo!

“Ro’n i mor ffodus – yn ôl yr adroddiadau o gartref, mae fy nheulu i gyd yn gaeth i’w cartrefi, y cyfnod clo yn anodd iawn, felly ro’n i’n eithaf lwcus.

“Ro’n i’n cadw cysylltiad â phobol gartref ac roedden nhw fatha, “Rhaid i ti aros yno, boi, oherwydd mae’r Deyrnas Unedig jyst wedi’i chau’n llwyr.

“Fe wnes i fabwysiadu ci ar y traeth, a’i alw e’n Pup.

“Doedd perchennog yr hostel ddim wir yn fy hoffi i oherwydd doedd e ddim eisiau i’r ci fod yno.”

Mae’n dweud bod y ci bellach wedi cael cartref newydd.

Sgiliau newydd

Ar ôl i fywyd ddychwelyd i ryw fath o drefn yn Sri Lanca, penderfynodd e chwilio am waith, ac fe ddaeth e’n DJ, gan ddysgu sut i weithio’r peiriannau angenrheidiol, ac fe gafodd e waith mewn bariau a phartïon.

“Ces i fy nhaflu oddi yno ddwywaith oherwydd do’n i jyst ddim yn ddigon da,” meddai.

“Neu ro’n i’n chwarae [cerddoriaeth] disgo ac roedden nhw eisiau’r stwff rhyfedd ‘tech house’ yma.

“Ond dw i wedi llwyddo i gael sawl gig yn Colombo lle’r o’n i’n dosbarthu taflenni, sydd wedi bod yn dipyn o hwyl.”

Mae e bellach yn gweithio fel DJ ac yn defnyddio’r enw DJ Randy Caddick, sy’n deyrnged i Andy Caddick, cyn-fowliwr cyflym Lloegr.

“Os dw i’n gwneud yn dda, dwi am gael uchafbwyntiau Andy Caddick yn chwarae y tu ôl i fi wrth i fi droelli disgiau,” meddai.

Gweithio i’r tîm cenedlaethol?

Ond ei freuddwyd fawr o hyd yw cael gweithio gyda thîm criced Sri Lanca, a hynny ar ôl dod yn ffrind i’r prif hyfforddwr Mickey Arthur.

“Fe wnaeth e jyst chwerthin ar fy nhwpdra,” meddai.

Ers dechrau’r pandemig, fu yna’r un gêm griced yn y wlad, gyda Bangladesh wedi canslo’u taith oherwydd rheolau cwarantîn.

Ond mae gobaith bellach y gall Lloegr deithio i’r wlad ym mis Ionawr.

Serch hynny, dydy hi ddim yn glir eto a fyddai Rob Lewis yn cael bod yn y cae ar gyfer y gemau.

“Dw i wedi bod yn aros cyhyd, ond dw i wedi cynnig fy ngwasanaeth i fod yn gludwr dŵr Sri Lanca fel y galla i fod yn rhan o’r swigen,” meddai.

Taith flaenorol i Japan

Nid dyma’r tro cyntaf iddo fod ar antur chwaraeon dramor.

Teithiodd e i Japan y llynedd i wylio Lloegr yn rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd – er nad oedd ganddo fe docyn i’r gêm, a doedd ganddo fe unman i aros.

Ar y pryd, roedd e’n gwella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei goes.

Ond fe gafodd e docyn i’r gêm a llety rhad ac am ddim – ac mae’n gobeithio y bydd e’n lwcus yn Sri Lanca hefyd.

“Dw i wedi glanio ar fy nhraed,” meddai.

“P’un ai lwc yw e neu fod rhaid i chi roi eich hun yn ei chanol hi yn y sefyllfaoedd hyn, dw i ddim yn gwybod.

“Ond dw i jyst am wneud y mwyaf o’r sefyllfa.

“Fydd hyn ddim yn para am byth.”