Mae Peter Moore, cyn-Brif Weithredwr Clwb Pêl-droed Lerpwl, wedi cadarnhau ei fod e’n cynghori perchnogion newydd Wrecsam.

Fe wnaeth Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu’r clwb yn gynharach y mis yma ar ôl cael sêl bendith y cefnogwyr.

Mae gan Peter Moore gysylltiadau teuluol yn y dref.

Ymunodd e â Lerpwl yn 2017 cyn camu o’r neilltu ym mis Awst.

Mae e hefyd wedi gweithio i gwmnïau Reebok, Sega, Microsoft ac EA Sports.

“Bydda i’n darparu cymorth fel ymgynghorydd i’r clwb a roddodd gymaint o eiliadau mor wych i fi yn nhymhorau hanesyddol y 70au, ac i’r gymuned lle wnes i fyw cyn gadael am yr Unol Daleithiau… nid i fod yn gyflogai neu i weithio’n llawn amser, od fel rhywun sydd eisiau rhoi [rhywbeth] yn ôl,” meddai ar Twitter.