Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn disgwyl taith anodd i herio Nottingham Forest yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sul, Tachwedd 29, 12 o’r gloch).

Tra bo’r Elyrch yn seithfed yn y tabl, mae Forest yn unfed ar hugain ac wedi gweld Chris Hughton yn olynu’r cyn-reolwr Sabri Lamouchi yn ddiweddar.

Ond mae’n bosib y bydd rhaid i’r Elyrch chwarae heb ddau o’r hoelion wyth, yr ymosodwr Andre Ayew a’r amddiffynnnwr canol Marc Guehi, wrth i’r clwb fonitro eu ffitrwydd yn dilyn anafiadau i’w cyhyrau.

Ond mae’r ymosodwr Viktor Gyokeres a’r asgellwr Jordon Garrick ar gael ar ôl bod yn dilyn protocol y coronafeirws wedi iddyn nhw gael profion positif yn dilyn y ffenest ryngwladol ddiweddar.

Mae’r ddau wedi bod yn ymarfer ers dychwelyd i Fairwood ddiwedd yr wythnos.

Dim ots am safleoedd yn y gynghrair

Mae Steve Cooper yn dweud nad oes fawr o ots am safleoedd y ddau dîm yn y tabl, gan ychwanegu ei fod yn disgwyl taith anodd.

Ar ôl dechrau siomedig oedd wedi arwain at ddiswyddo Sabri Lamouchi a phenodi Chris Hughton yn rheolwr, mae sefyllfa Nottingham Forest wedi gwella rywfaint er eu bod nhw’n dal yn y gwaelodion.

Ond mae Steve Cooper o’r farn fod eu carfan ymhlith y rhai cryfaf yn y Bencampwriaeth.

“Os edrychwch chi ar garfan Forest – os tynnwch chi’r timau sydd wedi dod i lawr sydd â charfannau cryf, yn naturiol – mae ganddyn nhw garfan sydd cyn gryfed ag unrhyw un,” meddai.

“Dyna’r tîm rydyn ni’n chwarae yn eu herbyn ac yn cynllunio i’w herio.

“Bydd hi’n gêm anodd iawn oddi cartref, ac yn un y bydd yn rhaid i ni fod yn barod iawn ar ei chyfer.

“Dyma’r math o gemau mae’n rhaid i chi ddangos eich bod chi’n credu ynoch chi eich hunain i gael y perfformiad a’r canlyniad cywir.

“Mae Chris yn rheolwr profiadol iawn.

“Mae e wedi cyflawni dro ar ôl tro ac mae’n rhaid i ni fod yn barod – ond mi fyddwn ni.”