Y Bala 3-1 Y Drenewydd

Cadwodd y Bala’r pwysau ar y ddau uchaf gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Drenewydd ar Faes Tegid nos Wener.

Sgoriodd Will Evans ddwywaith i ennill y gêm i’r tîm cartref cyn hanner amser i bob pwrpas.

Pŵer Will

Rhoddodd Evans ei dîm ar y blaen wedi hanner awr, yn pasio’r bêl i’r gornel isaf yn dilyn dyfalbarhad Lassana Mendes ar y dde.

Roedd gôl gyntaf Evans yn ddigon taclus ond roedd yr ail toc cyn yr egwyl yn glasur, Mendes yn creu unwaith eto ac Evans yn taro perl o ergyd droed chwith bwerus i’r gornel uchaf o ugain llath. Nawfed gôl y tymor i’r blaenwr a ymunodd o Met Caerdydd dros yr haf.

Fel hen win

Os mai’r gŵr ifanc, Evans, a osododd y sylfaen yn yr hanner cyntaf, gêm y chwaraewyr mwy… aeddfed… a oedd hi wedi’r egwyl!

Rhoddodd y profiadol, Matty Williams (38), lygedyn o obaith i’r ymwelwyr gyda dau funud o’r naw deg ar ôl. Ond roedd y tri phwynt yn ddiogel i dîm Colin Caton wedi i wrthymosodiad chwim gan Chris Venables (35) arwain at gôl i Steve Leslie (33) yn yr eiliadau olaf.

 

 

Cei Connah 3-1 Y Barri

Nid oedd y Barri wedi ennill yng Nghei Connah ers deunaw mlynedd cyn y penwythnos hwn ac mae’r rhediad hwnnw’n parhau wedi buddugoliaeth gymharol gyfforddus i’r tîm cartref yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ddydd Sadwrn.

Gascoigne heb y gadair

Roedd diffyg cyflymder George Horan yng nghanol amddiffyn Cei Connah yn arteithiol o amlwg yn erbyn y Derwyddon yr wythnos diwethaf ac fe amlygodd ei hun unwaith eto yn gynnar yn y gêm hon.

Wyth munud yn unig a oedd ar y cloc pan redodd Jordan Cotterill heibio iddo yn rhy rhwydd o lawer yn y cwrt cosbi cyn sgorio o ongl dynn.

Dau funud yn unig a barodd mantais y tîm cartref cyn i Mike Wilde unioni, y blaenwr yn dangos sgiliau Paul Gascoigne-esque i guro amddiffynnwr yn y cwrt cosbi cyn sgorio trwy goesau Mike Lewis. Yr unig beth a oedd ar goll a oedd dathliad y gadair ddeintydd!

Dwylo menyn Mike

Os oedd ymdrech Lewis braidd yn siomedig ar gyfer gôl gyntaf Cei Connah, y gôl-geidwad a oedd yn gyfan gwbl ar fai ar gyfer yr ail saith munud cyn yr egwyl. Yn dilyn gwaith da gan Danny Davies ar y chwith, disgynnodd y bêl yn garedig i Declan Poole yn y cwrt cosbi a gwasgodd ei ergyd wan trwy ddwylo menyn Lewis.

Ar ôl gwella’n raddol trwy gydol yr hanner cyntaf, fe lwyr reolodd y Nomadiaid wedi’r egwyl.

Wedi iddo fethu cyfle euraidd ar y foli o chwe llath cyn yr egwyl, fe wnaeth Aeron Edwards yn iawn am hynny trwy rwydo trydedd ei dîm ugain munud o’r diwedd, ac am gôl oedd hon.

Cafwyd rhagor o waith gwych gan seren y gêm, Davies, ar yr asgell chwith cyn i Edwards benio’n berffaith i’r gornel uchaf o ddeuddeg llath. Dim cyfle i Lewis y tro hwn.

 

 

Caernarfon 1-4 Hwlffordd

Colli gartref a fu hanes Caernarfon ddydd Sadwrn ar ôl chwarae bron i gêm gyfan gyda deg dyn a heb gôl-geidwad cydnabyddedig!

Hwlffordd a oedd yr ymwelwyr i’r Oval ac mae’r tîm o Sir Benfro yn codi dros y Cofis yn y tabl yn dilyn y fuddugoliaeth gyfforddus.

Twpdra Tibbetts y trobwynt

Daeth trobwynt y gêm wedi dim ond pum munud wrth i Josh Tibbetts ruthro allan o’i gwrt cosbi, cam reoli’r bêl â’i frest a llorio Jack Wilson.

Efallai mai bai Tibbetts a oedd y drosedd ond nid ei fai ef oedd y ffaith nad oedd gôl-geidwad ar y fainc, ffaith ryfeddol o ystyried y garfan enfawr y mae Huw Griffiths wedi ei hel at ei gilydd y tymor hwn.

Doedd dim amdani felly ond rhoi’r chwaraewr canol cae, Jamie Crowther, rhwng y pyst am weddill y gêm.

Fawcett a Wilson yn creu hafoc

Er mawr syndod, deg dyn y tîm cartref a aeth ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, Gareth Edwards yn penio i gefn y rhwyd o gic rydd Darren Thomas.

Roedd yr ymwelwyr yn gyfartal yn fuan wedyn, Ben Fawcett yn creu a Wilson yn rhwydo. Newidiodd y ddau eu rôl wrth i Hwlffordd fynd ar y blaen cyn yr egwyl, Wilson yn croesi y tro hwn a Fawcett yn sgorio.

Cyfunodd yr un ddau chwaraewr eto i ymestyn mantais yr Adar Gleision yn gynnar yn yr ail hanner, Fawcett yn rhoi pwysau ar y “gôl-geidwad” amhrofiadol a Wilson yn manteisio i sgorio’i ail o’r gêm.

Peniodd yr eilydd, Marcus Griffiths, bedwaredd Hwlffordd yn y munudau olaf i roi gwedd gyfforddus ar y sgôr terfynol.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Hwlffordd i hanner uchaf y tabl, a hynny ar draul Caernarfon, sydd yn gostwng i’r seithfed safle.

 

 

Y Fflint 0-1 Met Caerdydd

Roedd un gôl yn ddigon i Met Caerdydd wrth iddynt guro’r Fflint yn y frwydr tua gwaelod y tabl ar Gae y Castell ddydd Sadwrn.

Chwaraeodd y tîm cartref dri chwarter y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Alex Jones.

Coch cynnar

Jones

Daeth

digwyddiad mawr y gêm union hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, Iwan Griffith yn anfon Jones oddi ar y cae am drosedd ar Emlyn Lewis.

Bu’n rhaid i’r Myfyrwyr fod yn amyneddgar wedi hynny ond fe ddaeth y gôl holl bwysig ddeunaw munud o ddiwedd y naw deg, Olli Hulbert yn rhwydo.

Cafwyd trafodaeth hir rhwng Griffith a’i ddyfarnwr cynorthwyol ond penderfynodd y ddau yn y diwedd fod gôl y gŵr ifanc sydd ar fenthyg o Bristol Rovers yn un ddilys.

Gwahaniaeth goliau’n unig a oedd yn gwahanu’r ddau dîm cyn y gêm ond mae’r canlyniad hwn yn codi Met i’r seithfed safle tra mae’r Fflint yn aros yn safleoedd y gwymp.

 

 

Y Seintiau Newydd 4-1 Aberystwyth

Arhosodd Y Seintiau Newydd chwe phwynt yn glir ar frig y tabl gyda buddugoliaeth yn erbyn Aberystwyth ar Neuadd y Parc ddydd Sadwrn.

Er i’r Seintiau reoli am rannau helaeth o’r gêm, bu’n rhaid iddynt ddibynnu ar ddwy gôl hwyr gan yr eilydd, Greg Draper, i ddiogelu’r tri phwynt yn y diwedd.

Un i ddim Ebbe

Dechreuodd y tîm cartref ar dân gyda pheniad y Gwyddel, Dean Ebbe, yn eu rhoi ar y blaen yn y pedwerydd munud.

Yn erbyn llif y chwarae, roedd Aber yn gyfartal ddeg munud cyn yr egwyl wedi i Steven Hewitt benio croesiad Adam Davies i gefn y rhwyd.

Siwper sub

Am flaenwr sydd yn aml yn dechrau gemau ar y fainc y dyddiau hyn mae gan Greg Draper record sgorio anhygoel. Hanner awr yn unig a gafodd y Kiwi yr wythnos hon ond roedd yn ddigon o amser iddo sgorio dwy, os nad tair gôl.

Roedd yng nghanol pethau wrth i’r Seintiau fynd ar y blaen funud yn unig wedi iddo ddod i’r cae ond mae’n debyg mai fel gôl i’w rwyd ei hun gan Lee Jenkins y caiff honno ei chofnodi yn y llyfrau hanes.

Does dim amheuaeth serch hynny am y ddwy gôl mewn pum munud ar ddiwedd y gêm a sicrhaodd y tri phwynt. Trodd yn dda yn y cwrt cosbi i greu’r gyntaf iddo ef ei hun cyn penio’r llall dros Alex Pennock yn y gôl.

Gwena Greg bach!

Rheiny a oedd ei nawfed a’i ddegfed gôl o’r tymor, dwy un unig yn llai na phrif sgoriwr y gynghrair, Chris Venables. Ond os oeddech chi’n meddwl y byddai hynny yn rhoi gwên ar wyneb y creadur, meddyliwch eto a gwyliwch hwn!

 

 

Pen-y-bont 1-1 Derwyddon Cefn

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Ben-y-bont groesawu’r Derwyddon Cefn i Stadiwm SDM Glass brynhawn Sul.

Daeth y ddwy gôl yn yr ugain munud olaf wrth i Ben Ahmun roi’r tîm cartref ar y blaen cyn i Jacob Wise achub pwynt i’r ymwelwyr.

Disgleirdeb wedi’r dryswch

Os yw hi’n bosib i gôl fod yn un dda er iddi ddeillio o lanast amddiffynnol llwyr, gôl Ahmun i roi Pen-y-bont ar y blaen ddeunaw munud o’r diwedd a oedd yr enghraifft berffaith.

Crwydr diangen Michael Jones allan o’i gwrt cosbi a roddodd y meddiant i’r blaenwr ac er i’w ergyd gyntaf gael ei hatal gan amddiffynnwr, roedd ei ail gynnig yn wych. Cododd y bêl yn gelfydd dros sawl corff yn y cwrt cosbi i ganfod cefn y rhwyd.

Un gŵr doeth

Os oedd y gôl gyntaf yn un dda, roedd yr un a gipiodd bwynt i’r Derwyddon yn well!

Tri munud yn unig o’r naw deg a oedd yn weddill pan deithiodd peniad amddiffynnol i gyfeiriad Wise y tu allan i’r cwrt cosbi. Chwarter cyfle yn unig a ydoedd mewn gwirionedd ond roedd ei dechneg yn berffaith wrth iddo anelu foli flasus heibio i Ashley Morris yn y gôl.

 

 

Gwilym Dwyfor