Cafodd gêm Wrecsam y pnawn yma yn Bromley ei hatal am 30 munud yn yr hanner cyntaf oherwydd anaf difrifol i’r golwr Rob Lainton.

Cafodd ei guro’n ddiymadferth i’r llawr yn y 24ain munund ar ôl gwrthdrawiad yn erbyn James Alabi. Cafodd ei drin gan barafeddygon ar y cae cyn mynd i’r ysbyty mewn ambiwlans.

Pan ailgychwynnodd y chwarae, aeth Bromley ar y blaen ymhen 10 pan sgoriodd Michael Cheek ei chweched gôl y tymor hwn.

Fe wnaeth eilydd gôl Wrecsam, Christian Dibble, yn dda i arbed sawl ergyd arall, cyn i Wrecsam sicrhau gêm gyfartal wrth i Adi Yussuf benio gôl 13 munud cyn y diwedd.

Yn sgil ennill y pwynt, mae Wrecsam wedi codi i’r pedwerydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol.