Mae ymgyrch siomedig Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref wedi cael ergyd pellach ar ôl colli yn erbyn Lloegr ym Mharc y Scarlets.

Cymru oedd y cyntaf i groesi’r llinell – y canolwr Johnny Williams yn sgorio ei gais cyntaf yng nghrys coch Cymru a Halfpenny yn ychwanegu dau bwynt i’r sgôr.

Ond yn fuan wedyn tarodd yr ymwelwyr yn ôl wrth i Slade ddod o hyd i fwlch yn amddiffyn Cymru – methu gwnaeth capten Lloegr, Owen Farell, yn ei ymgais at y pyst.

Roedd ’na gyfnodau o chwarae ymosodol da gan Gymru yn ystod yr hanner cyntaf, ond ar ôl ildio cyfres o giciau cosb rhoddodd Farrell ei dîm ar y blaen am y tro cyntaf.

Er i Halfpenny a Farrell fethu cic gosb yr un yn ystod yr hanner cyntaf ychydig cyn i’r cloc droi’n goch cafodd Farrell gyfle arall i fynd am y pyst – y tro hwn yn ymestyn mantais Lloegr.

Hanner amser: Cymru 7–11 Lloegr

Ar ôl chwarae da gan Loegr ar ddechrau’r ail hanner groesodd Mako Vunipola yn y gornel a Farrell unwaith eto yn ymestyn mantais y Saeson.

Tarrodd Dan Biggar yn ôl gyda dwy gic gosb hawdd i gadw’r Cymry o fewn cyrraedd, ond ildiodd Cymru ragor o giciau cosb yng nghanol cae ac yn ardal y sgrym.

Er i chwarae da rhwng yr eilydd Callum Sheedy a’r asgellwr Louis Rees-Zammit gynnig cip olwg o’r hyn sy’n bosib profodd amddiffyn Lloegr yn rhy dda i’r chwaraewyr ifanc.

Ciciodd Farrell ddwy gic gosb arall i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol i’r Saeson.

Ar ddiwedd y gystadleuaeth Lloegr sydd ar frig Adran A Cwpan Cenhedloedd yr Hydref tra bod Cymru yn drydydd.

Bydd Cymru yn wynebu’r Eidal y penwythnos nesaf sydd yn drydydd yn Adran B a bydd Lloegr yn wynebu Ffrainc yn y rownd derfynol.

Cymru
13-24
Lloegr

J.Williams

Ceisiau

Slade, M.Vunipola

Halfpenny

Trosiadau

Farrell

Biggar (2)

Ciciau Cosb

Farrell (4)

Tîm Cymru

Olwyr: 15. Leigh Halfpenny, 14. Josh Adams, 13. Nick Tompkins, 12. Johnny Williams, 11. Louis Rees-Zammit, 10. Dan Biggar, 9. Lloyd Williams

Blaenwyr: 1. Wyn Jones, 2. Ryan Elias, 3. Samson Lee, 4. Jake Ball, 5. Alun Wyn Jones (C), 6. Shane Lewis-Hughes, 7. James Botham, 8. Taulupe Faletau

Eilyddion: 16. Elliot Dee, 17. Rhys Carre, 18. Tomas Francis, 19. Will Rowlands, 20. Aaron Wainwright, 21. Rhys Webb, 22. Callum Sheedy, 23. Owen Watkin

 

Tîm Lloegr

Olwyr: 15. Elliot Daly, 14. Jonathan Joseph, 13. Henry Slade, 12. Owen Farrell (C), 11. Jonny May, 10. George Ford, 9. Ben Youngs

Blaenwyr: 1. Mako Vunipola, 2. Jamie George, 3. Kyle Sinckler, 4. Maro Itoje, 5. Joe Launchbury, 6. Tom Curry, 7. Sam Underhill, 8. Billy Vunipola

Eilyddion: 16. Luke Cowan-Dickie, 17. Ellis Genge, 18. Will Stuart, 19. Jonny Hill, 20. Ben Earl, 21. Jack Willis, 22. Dan Robson, 23. Anthony Watson

 

Dyfarnwr: Romain Poite (Ffrainc)

Dyfarnwyr cynorthwyol: Pascal Gauzere ac Alex Ruiz (Ffrainc)

TMO: Brian MacNiece (Iwerddon)