Llwyddodd Casnewydd i ennill fuddugoliaeth rwydd o 3-0 yn erbyn Salford yn Rodney Parade y pnawn yma.

Eri  Mickey Demetriou fethu cic o’r smotyn mewn hanner cyntaf di-sgôr, newidiodd pethau yn yr ail hanner pan gafodd Brandon Thomas-Asante ei anfon o’r cae yn y munud cyntaf. Roedd hyn am dacl hwyr ac uchel ar gôl-geidwad Casnewydd, Tom King.

Ar ôl y cerdyn coch, enillodd Casnewydd reolaeth lwyr o’r gêm, a sgorio eu gôl gyntaf wrth ei Jamie Proctor benio’r bêl i’r rhwyd ar y 55fed munud.

Daeth eu buddugoliaeth yn sicr ar ôl i Padraig Amond sgorio mewn cic o’r smotyn chwarter awr cyn y diwedd. Ar ben hyn, daeth trydedd gôl gan Saikou Janneh yn ystod yr amser ychwanegol.