Fe fydd Nigel Owens yn dyfarnu ei ganfed gêm ryngwladol fel canolwr yn yr ornest rhwng Ffrainc a’r Eidal yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref heno.

Mae’r Cymro o Gwm Gwendraeth, a fydd yn 50 oed y flwyddyn nesaf, yn un o’r wynebau mwyaf poblogaidd ac uchel ei barch yn y gêm.

“Wnes i erioed ddisgwyl y byddwn wedi dyfarnu cymaint o gemau,” meddai ar bod-ddarllediad Between the Lines.

“Pan ydych chi’n dyfarnu, dydych chi ddim yn meddwl o ddifrif am gerrig milltir. Pan ges i fy 71fed cap, fe wedyn oedd y dyfarnwr a gafodd fwyaf o gapiau. Doedd hyn ddim yn rhywbeth ro’n i’n mynd ati’n fwriadol i’w gyflawni, ond roedd yn rhywbeth y dois i’n falch iawn ohono.

“Mae’n debyg iawn nawr gyda’r 100 hyn. Pe bawn i’n dweud nad ydw i’n becso llawer am niferoedd, a phe bai unrhyw ddyfarnwr yn dweud hynny wrthoch chi, dw i ddim yn meddwl eu bod yn onest iawn gyda chi, oherwydd mae’n rhywbeth arbennig, rhywbeth y gallwch edrych yn ôl arno.

“Gyda’r safon ragorol o ddyfarnwyr sydd o gwmpas nawr, rhai ifanc yn ogystal, dw i’n meddwl y bydd sawl un ohonyn nhw yn y blynyddoedd i ddod yn cyrraedd y garreg filltir 100-cap.”