Dywed capten Cymru y bydd yn rhaid i’r tîm ganolbwyntio’u sylw arnyn nhw’u hunain yn lle ar eu gwrthwynebwyr wrth iddyn nhw baratoi i herio Lloegr y pnawn yma.
Mae Cymru’n mynd i’r gêm Cwpan Cenhedloedd yr Hydref ym Mharc y Scarlets gyda un fuddugoliaeth yn unig o’u saith prawf diwethaf, tra bod Lloegr wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf yn olynol.
“Fe wyddon ni am y bygythiad maen nhw’n ei achosi, ond gallwch ganolbwyntio gormod ar eich gwrthwynebwyr,” meddai Alun Wyn Jones, a fydd yn chwarae yn ei 22ain gêm yn erbyn Lloegr.
“Y pethau sylfaenol a syml sy’n bwysig. Disgyblaeth, cadw’r bêl a sgorio mwy o bwyntiau na’r gwrthwynebwyr. Mae hyn yn wir am unrhyw gêm a gwrthwynebwyr.
“Yn amlwg, mae’r syrcas Cymru-Lloegr yn elfen ychwanegol, ond rydym mewn cyd-destun cystadleuaeth arall.”
Mae Cymru wedi curo Lloegr saith gwaith allan o’r gêm ddiwethaf yng Nghymru, ond maen nhw saith safle y tu ôl iddyn nhw yn nhabl presennol Rygbi’r Byd, gyda Lloegr yn ail, a Chymru’n nawfed.
Fe fydd y gêm i’w gweld yn fyw ar S4C, ar raglen y Clwb Rygbi Rhyngwladol sy’n cychwyn am 15.30, gyda’r gêm ei hun yn cychwyn am bedwar o’r gloch.