Fe fydd rhagor o drafodaethau am berthynas Prydain a’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwedd y mis nesaf yn ailgychwyn yn Llundain heddiw, dydd Sadwrn.

Gyda mymryn dros fis i fynd cyn diwedd cyfnod pontio Brexit, mae’r amser yn dynn i geisio cytundeb masnach rhwng y ddwy ochr.

Roedd y trafodaethau wyneb yn wyneb eu gohirio’r wythnos ddiwethaf ar ôl i un o dîm yr Undeb Ewropeaidd brofi’n bositif i’r coronafeirws.

Wrth gyrraedd Llundain neithiwr, dywedodd prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, y byddai’n parhau i weithio gydag amynedd a phenderfyniad i gyrraedd cytundeb.

Roedd wedi trydar yn gynharach ddoe fod gwahaniaethau sylweddol yn parhau rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd. Yn y cyfamser, mae prif drafodwr Prydain, yr Arglwydd Frost, wedi rhybuddio na fydd cytundeb os na fydd yr Undeb Ewropeaidd yn “parchu sofraniaeth” y Deyrnas Unedig.