Mae British Airways wedi ymddiheuro am ddymuno lwc dda i Loegr yn erbyn Cymru y pnawn yma.

Roedd y cwmni awyrennau, sydd â threfniant noddi gydag England Rugby, wedi trydar eu dymuniadau da y bore yma ar gyfer y gêm Cwpan Cenhedloedd yr Hydref ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

Mae’r trydariad bellach wedi ei ddileu.

Ymysg y rhai a wnaeth eu beirniadu roedd y cyflwynydd newyddion Huw Edwards a drydarodd: “I love @easyJet.”

Mae amryw eraill wedi awgrymu y dylai’r cwmni newid ei enw i “English Airways”.

Ymateb YesCymru oedd:

“Hyd yn oed pan ddaw Cymru’n annibynnol, fe fydd yn dal yn rhan o ynys Prydain.

“Nid ‘UK Airways’ yw eich brand chi, ond ‘British Airways’. Er hyn, rydym wedi cael digon ar yr ‘undeb’ anghyfartal toredig hwn.”

Wrth ymddiheuro am ‘gamsefyll’, dywedodd British Airways mewn datganiad:

“Rydym yn noddwyr balch England Rugby, ond ar yr achlysur hwn, fe wnaethon ni gamsefyll yn anfwriadol, ac mae’n ddrwg gennym am hyn.”