Gydag arolygon barn yn dangos mwyafrifoedd cyson o blaid annibyniaeth, mae prif weinidog yr Alban wedi addo i’w chefnogwyr y bydd yn mynnu’r hawl i gynnal ail refferendwm.

“Mae gan bobl yr Alban yr hawl i ddewis eu dyfodol,” meddai Nicola Sturgeon wrth annerch cynhadledd flynyddol yr SNP, gan ychwanegu mai ei gobaith fyddai cynnal pleidlais yn gynnar yn nhymor nesaf Senedd yr Alban.

“Mae’r Alban bellach yn genedl sydd ar fin creu hanes,” meddai. “Mae annibyniaeth o fewn ein golwg glir – ac os dangoswn undod yn ein nod, gwyleidd-dra a gwaith caled, dw i erioed wedi bod mor sicr y byddwn ni’n cyflawni hynny.”

Er bod y prif weinidog Boris Johnson wedi dweud na fyddai’n caniatáu refferendwm arall, mae Nicola Sturgeon yn wynebu pwysau o fewn ei phlaid ei hun i ymrwymo i gynnal un prun bynnag.

Er gwaethaf y gefnogaeth gynyddol i annibyniaeth, mae gwahaniaethau barn o fewn yr SNP ar sut i gyflawni’r nod. Mae tensiynau o dan yr wyneb hefyd yn sgil y gwrthdaro sydd wedi bod rhwng Nicola Sturgeon a’r cyn-arweinydd Alex Salmond.

Beirniadu ‘cwlt arweinydd’

Ymhlith y rheini sy’n feirniadol o’i harweinyddiaeth mae’r Aelod Seneddol a’r QC Joanna Cherry, sydd wedi bod yn gyson ei chefnogaeth i Alex Salmond.

Mae hi wedi ymosod ar yr hyn mae hi’n ei weld fel “cwlt arweinydd” yn yr SNP ar hyn o bryd, gan ddadlau nad yw’n llesol “rhoi eich holl ffydd mewn un person”. Mae’n honni hefyd fod tueddiad “afiach” i rwystro trafodaethau agored yn y blaid.

Wrth annerch cynhadledd flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru 2020 ddoe, galwodd Joanna Cherry am archwiliad llawnach o ddadleuon cyfreithiol ynghylch senedd yr Alban yn galw refferendwm heb ganiatâd San Steffan.

“Os bydd pleidiau sydd o blaid annibyniaeth ac o blaid refferendwm ar annibyniaeth yn ennill mwyafrif yn etholiad yr Alban y flwyddyn nesaf a’r Prif Weinidog yn gwrthod trafod, rhaid i hyn gael ei ystyried,” meddai.

“Pan fyddai’r her gyfreithiol anochel yn dod, mater i’r llysoedd fyddai penderfynu a fyddai’r mesur a gafodd ei basio o fewn cymhwysedd Senedd yr Alban ac a allai’r refferendwm a gafodd ei awdurdodi fel hyn fynd yn ei flaen.”