Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen newydd i reoli ac adnewyddu mawndiroedd – er mwyn manteisio ar allu mawn i gyfrannu at ymdrechion i leihau carbon yn yr atmosffer.
Mae mawn yn cynnwys carbon organig sydd wedi ei ddal yn y ddaear dros filoedd o flynyddoedd, ac mae’n chwarae rhan hollbwysig wrth ddal a chadw carbon yn naturiol.
Y gobaith yw y bydd y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn helpu i reoli mawndiroedd sy’n bodoli eisoes, ac yn adfer nifer ohonyn nhw i’w cyflwr blaenorol – yn ogystal â helpu i arafu’r broses o’u colli.
Cafodd y rhaglen newydd ei lansio gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ddoe.
“Wrth inni edrych ymlaen at gyflawni ein hamcanion datgarboneiddio, mae angen inni wneud defnydd da o bob dull sydd gennym o ddal a storio carbon,” meddai. “Ac mae mawndiroedd yn hynod dda am wneud hyn, gan gynnig dull cynaliadwy o storio carbon am ganrifoedd.
“Yn anffodus, oherwydd pethau fel draenio, coedwigaeth, erydu a rheoli dwys – ac wrth i effaith yr argyfwng hinsawdd barhau, bydd eu cael yn ôl a chreu mawndiroedd newydd yn dod yn fwyfwy anodd.
“Oherwydd hynny, mae angen un pwynt cyswllt cenedlaethol o gyngor a chanllawiau i reolwyr tir ledled Cymru er mwyn sicrhau bod ein mawndiroedd yn cael eu rheoli yn gynaliadwy – ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda partneriaid ar eu hadfer.”