Mae arlywydd Iran wedi bygwth dial ar ôl i’r gwyddonydd a oedd yn arwain rhaglen niwclear y wlad gael ei lofruddio ddoe.

Fel rhai o swyddogion eraill ei lywodraeth, mae Hassan Rouhani yn beio Israel am farwolaeth Mohsen Fakhrizadeh.

Er nad yw Israel wedi gwneud sylw ar yr ymosodiad, mae ganddi hanes o lofruddio gwyddonwyr blaenllaw yn Iran o’r blaen er mwyn ceisio rhwystro’r wlad rhag datblygu arf niwclear. Mae Iran, fodd bynnag, yn gwadu fod unrhyw gymhellion milwrol i’w rhaglen niwclear, Amad.

Dywedodd yr Arlywydd Rouhani na fyddai marwolaeth Mohsen Fakhrizadeh yn rhwystro rhaglen niwclear Iran.

“Byddwn yn ymateb i lofruddiaeth y Merthyr Fakhrizadeh ar yr amser iawn,” meddai.

“Mae cenedl Iran yn rhy glyfar i syrthio i fagl y Seionistiaid, sy’n ceisio creu anhrefn.”

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ddoe ym mhentref Absard ychydig i’r dwyrain o’r brifddinas Tehran. Roedd hen lori ac arni ffrwydron yn cuddio o dan lwyth o goed wedi chwythu i fyny wrth ymyl car a oedd yn cludo Mohsen Fakhrizadeh. Wrth i’w gerbyd stopio, ymddangosodd o leiaf bump o saethwyr a daniodd yn ddi-baid ar y cerbyd.