Fe fydd profi torfol am y coronafeirws – fel sydd eisoes yn digwydd ym Merthyr – yn cael ei ymestyn i waelodion Cwm Cynon yr wythnos nesaf.

Dyma fydd yr ail ardal yng Nghymru lle bydd yr holl drigolion a’r rhai sy’n gweithio ynddi – boed ganddyn nhw symptomau neu beidio – yn cael cynnig profion parhaus am gyfnod o bythefnos.

Bydd y profi’n cael ei wneud mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Prydain, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Y nod yw adnabod achosion positif a thorri’r cadwyni trosglwyddo.

Mae’r trefi lle bydd y profi’n cychwyn ddydd Sadwrn nesaf yn cynnwys Abercynon, Dwyrain Aberpennar, Gorllewin Aberpennar, Penrhiwceiber a De Aberaman.

Fe fydd y profion cyflym yn digwydd mewn dwy ganolfan – Canolfan Bowlio Dan-do Cwm Cynon, a Chanolfan Hamdden Aberpennar ac Abercynon – gyda’r canlyniadau ar gael o fewn hanner awr neu lai. Os bydd rhywun yn profi’n bositif, gofynnir iddyn nhw fynd adref fel y gallan nhw hunan-ynysu.

Profi dros 8,000 ym Merthyr

Dywed y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething fod bron i 8,000 wedi cael eu profi yn ystod chwe diwrnod cyntaf y cynllun peilot ym Merthyr.

“Dw i’n falch ein bod ni’n gallu ymestyn y rhaglen brofi torfol i waelodion Cwm Cynon,” meddai.

“Fel mae peilot Merthyr wedi’i ddangos, mae profi torfol yn rhoi mwy o ddealltwriaeth inni o achosion yn y gymuned, ac mae hefyd yn dangos faint o bobl sydd wedi eu heintio ond sydd heb symptomau.

“Hoffwn ddiolch i bawb ym Merthyr sydd wedi gwneud llwyddiant o’r prosiect peiltot a dw i’n annog pobl gwaelodion Cwm Cynon i gael eu profi.”