Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn gweithio â Chyngor Bro Morgannwg i ddarparu cynllun beiciau trydan Nextbike y tu allan i orsaf drenau Penarth.
Gall cwsmeriaid lawrlwytho ap Nextbike sy’n eu galluogi i logi beic a’i ddychwelyd i unrhyw orsaf docio Nextbike.
Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Gyngor Bro Morgannwg, a daw yn sgil cyflwyno cynlluniau rhannu beiciau yng Nghaerdydd ac Abertawe.
Ac mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu cyflwyno gorsafoedd e-feic ychwanegol o amgylch y sir mewn partneriaeth â Nextbike dros y misoedd nesaf.
Dywedodd Jay Bryce, Rheolwr Integreiddio Cwsmeriaid Network Rail, fod y cynllun yn cyd-fynd ag uchelgais y cwmni o wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn wyrddach ac yn fwy cynaliadwy.
“Mae cynlluniau rhannu beiciau yn ffordd wych o annog pobl i fod yn fwy egnïol a gwneud dewisiadau gwyrddach wrth deithio,” meddai.
“Mae beiciau trydan yn cynnig yr holl fanteision iechyd, ond ar yr un pryd yn ei gwneud yn llawer haws i symud a theithio i fyny bryniau.
“Mae cael un o bwyntiau rhannu e-feiciau cyntaf Cymru ym Mhenarth wir yn cefnogi ein hymrwymiad i wneud gorsafoedd yn byrth i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
“Rydym yn buddsoddi’n sylweddol yn ein gorsafoedd dros y blynyddoedd nesaf a bydd gweithio mewn partneriaeth â chynghorau lleol a Network Rail yn eu gweld yn dod yn asedau lleol, yn hytrach na dim ond rhywle rydych chi’n dal trên.”
“Hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi dulliau trafnidiaeth egnïol a chynaliadwy”
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda Chyngor Dinas Caerdydd i greu system ddi-dor a fydd yn cysylltu’r ddau gynllun.
Bydd hynny’n galluogi pobol i allu teithio rhwng y ddau leoliad a dychwelyd beiciau i’r naill le neu’r llall.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Peter King: “Ar ôl datgan argyfwng hinsawdd yn gynharach eleni, mae’n hanfodol fel Cyngor ein bod yn parhau i gefnogi dulliau trafnidiaeth egnïol a chynaliadwy.
“Mae’r beiciau’n syml i’w defnyddio ac mae’r tariffau’n tueddu i fod yn rhatach na theithio mewn car, bws neu drên.