Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru bellach am orfodi plant tair oed i ddysgu Saesneg.

Roedd pryderon y gallai gorfodaeth o’r fath atal disgyblion rhag cael eu trochi yn drwyadl yn yr iaith Gymraeg.

Y ddadl yw bod angen sylfaen gadarn yn y Gymraeg cyn troi at ddysgu Saesneg.

Bellach, mae’r Llywodraeth yn y broses o ymgynghori ar eu bwriad newydd o wneud dysgu Saesneg yn orfodol i blant o saith oed ymlaen.

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar Ragfyr 4, ac mae’r mudiad iaith yn pwyso ar y Llywodraeth i fynd gam ymhellach eto, a gollwng Saesneg yn gyfan gwbl o Fil y Cwricwlwm, a chyflwyno addysg Gymraeg i bawb.

Beth sydd dan sylw?

Yn eu dogfen yn ymgynghori ar ddiwygio Bil y Cwricwlwm, mae’r Llywodraeth yn cynnig:

‘Diwygio’r Bil i wneud y Saesneg yn fandadol o 7 oed ymlaen.

‘Byddai hyn yn golygu mai mater i ysgolion fyddai penderfynu a ddylid addysgu Saesneg cyn yr oedran hwnnw a sut i wneud hynny.

‘Byddai ysgolion yn gallu addysgu Saesneg mewn ffordd sy’n cefnogi datblygiad eu dysgwyr, a gallai Llywodraeth Cymru ddarparu canllawiau anstatudol i gefnogi ysgolion yn hyn o beth pe bai’r ysgolion o’r farn bod hyn yn ddefnyddiol.

‘Byddai’r statws hwn i ddysgu Saesneg wedyn yn gyson â’r dull gweithredu presennol yn y Cyfnod Sylfaen.’

Y Gymraeg yn dair oed

Mae’r Llywodraeth am i’r Gymraeg fod yn orfodol mewn ysgolion o oedran cynharach:

‘Cadw’r Gymraeg yn fandadol o 3 oed.

‘Mae hyn yn adlewyrchu ein barn ei bod yn iaith leiafrifol sydd mewn perygl sydd angen cymorth ychwanegol, fel y nodir yn Cymraeg 2050.

‘Byddai’r dull hwn unwaith eto yn gyson â’r dull gweithredu presennol yn y Cyfnod Sylfaen, lle mae’r Gymraeg yn orfodol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

‘Fodd bynnag, byddai’r gwelliant arfaethedig i’r Bil yn arwydd cliriach o’n disgwyliad y dylid hyrwyddo a galluogi dysgu yn y Gymraeg drwy roi’r disgwyliad hwn ar wyneb y Bil ar gyfer pob ysgol.’

“Gwarchod yr arferiad o drochi”

Meddai Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone:

“Rydan ni’n croesawu bwriad y Llywodraeth nawr i beidio gwneud Saesneg yn orfodol hyd at 7 oed, sy’n cynrychioli newid cyfeiriad cadarnhaol gan y bydd yn gwarchod yr arferiad o addysg drochi Cymraeg mewn ysgolion Cymraeg ac yn ei gwneud yn rhwyddach i ysgolion eraill i fabwysiadu’r arferiad hwn.

“Mae’r newid cyfeiriad hwn wedi digwydd o ganlyniad i ymgyrchu caled gan Gymdeithas yr Iaith ac eraill i warchod ac ehangu addysg Gymraeg yn ein hysgolion.

“Mae nawr angen i’r Llywodraeth gymryd y cam rhesymegol nesaf a thynnu Saesneg yn gyfan gwbl o’r Bil, gan nad oes unrhyw dystiolaeth yn cyfiawnhau ei gynnwys, ac nad oes unrhyw angen amdano beth bynnag gan fod Saesneg yn rhwym o gael ei dysgu yn ein hysgolion trwy’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu heb fod angen cynnig deddfwriaethol penodol.

“Mae’n bryd i’r Llywodraeth symud ymlaen o’r cynlluniau diangen hyn a chanolbwyntio ar gyflwyno un llwybr dysgu’r Gymraeg go iawn yn y cwricwlwm newydd, er mwyn ehangu addysg Gymraeg ar draws ein hysgolion a galluogi pob plentyn i ddod yn rhugl yn yr iaith.”