Mae Caerdydd wedi lleihau’r pwysau ar y rheolwr Neil Harris gyda buddugoliaeth 4-0 ysgubol dros Luton y pnawn yma.

Fe wnaeth goliau cynnar gan y capten Sean Morrison a’r ergydiwr ifanc Mark Harris roi cychwyn cadarn i Gaerdydd, cyn i Kieffer Moore a Sheyi Ojo selio buddugoliaeth gydag ergydion yn yr ail hanner.

Dim ond yr ail fuddugoliaeth mewn naw gêm oedd hon i’r Adar Gleision, ac roedd Neil Harris wedi cyfaddef y gallai methiant heddiw fod wedi arwain at ei ddiswyddo.

Mae’r canlyniad wedi golygu eu bod nhw’n symud i fyny i’r 14eg safle yn y Bencampwriaeth ac o fewn chwe phwynt i’r safleoedd ail gyfle.