Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi’r trefniadau ar gyfer rownd gyntaf Cwpan Nathaniel MG.
Bydd y rownd yn cael ei chynnal y penwythnos nesaf (Rhagfyr 12).
Cafodd JD Cymru y De a’r Gogledd statws élit gan Chwaraeon Cymru yr wythnos ddiwethaf, ac fe ddaeth y Bwrdd Cenedlaethol ynghyd ddoe (dydd Llun, Tachwedd 30) i drafod fformat y cystadlaethau y tymor nesaf.
Rownd gynta’r gwpan
Bydd 26 o dimau yn rownd gynta’r gwpan – 13 o’r de ac 13 o’r gogledd – a byddan nhw’n seiliedig ar restr ddetholion y tymor diwethaf.
Mae Caerdydd a Chasnewydd wedi cael gwahoddiad i’r rownd gyntaf, a bydd Airbus UK Brychdyn, Prestatyn a Chegidfa yn cael pàs i’r rownd nesaf ochr yn ochr â gweddill timau Uwch Gynghrair JD.
Bydd yr enwau’n cael eu tynnu o’r het nos yfory (nos Fercher, Rhagfyr 2), gyda’r gemau’n cael eu cynnal ar Ragfyr 11 a 12.
O ran y gynghrair, bydd 15 o gemau yr un yn y de a’r gogledd yn 2021, gyda phob tîm yn herio’i gilydd unwaith. Bydd yr wyth gêm gartref yn cael eu dewis ar hap.
Yn unol â chanllawiau’r Pyramid, bydd timau’n esgyn a disgyn yn ôl y drefn arferol, a bydd dyddiad cychwyn y gynghrair yn cael ei gyhoeddi’n fuan.