Mae BAE Systems wedi derbyn cytundeb newydd 15 mlynedd gan Weinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig.

Bydd y cytundeb newydd, sydd werth £2.4bn, yn cynnal tua 4,000 o swyddi ledled y Deyrnas Unedig, ac yn disodli’r cytundeb presennol, sydd i ddod i ben ddiwedd 2022.

Mae BAE Systems yn cyflogi staff mewn pum safle ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Glasgoed yn Sir Fynwy.

Mae’r cytundeb yn galluogi BAE Systems i fuddsoddi £70 miliwn ar adnewyddu ac uwchraddio llinellau gweithgynhyrchu, gyda 75% o’r gwerth hwn yn cael ei fuddsoddi erbyn 2026.

Bydd y Cwmni hefyd yn gwario hyd at £350m gyda chwmnïau yn y Deyrnas Unedig ar ddeunyddiau crai a chydrannau peirianyddol.

“Mae’r cytundeb hwn yn sicrhau dyfodol diwydiant hynod dechnegol sy’n cefnogi miloedd o swyddi gweithgynhyrchu mewn sawl ardal ledled y DU,” meddai Charles Woodburn, Prif Weithredwr BAE Systems.

“Drwy fuddsoddi mewn technoleg a sgiliau newydd i ddatblygu ein harbenigedd ymhellach, gallwn barhau i ddarparu gallu sofran hanfodol i’r Lluoedd Arfog am brisiau cystadleuol.”

Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn Jeremy Quin: “Mae amddiffyn yn sail i gannoedd o filoedd o swyddi ar draws pedair cornel y genedl, ac mae buddsoddiad parhaus yn hanfodol wrth i ni weithio gyda’n gilydd i adeiladu’n ôl yn well ac yn gryfach o bandemig Covid-19.”