Bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ddiweddarach yr wythnos hon ar gyfyngiadau teithio newydd yng Nghymru, meddai’r Prif Weinidog.
Dywedodd Mark Drakeford y byddai “cyfyngiadau teithio newydd” yn cael eu hystyried ar ddiwedd y cyfyngiadau yn Lloegr.
Ychwanegodd: “Bydd gweddill y mesurau coronafeirws cenedlaethol sydd gennym yng Nghymru yn aros yr un fath ag y maent heddiw.
“Ni fydd unrhyw newidiadau i aelwydydd estynedig, faint o bobl sy’n gallu cyfarfod mewn mannau cyhoeddus yn yr awyr agored a lleoedd dan do, nac unrhyw gyfyngiadau ar fusnesau eraill.
O ran cyfyngiadau teithio, dywedodd y canlynol:
“Pan ddaw cyfyngiadau symud Lloegr i ben ddydd Mercher yr wythnos hon, byddwn yn edrych ar gyfyngiadau teithio newydd i mewn ac allan o Gymru ac yn gwneud cyhoeddiad pellach yr wythnos hon.”
Ar hyn o bryd, does dim cyfyngiadau teithio yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru yn “gofyn i bawb feddwl yn ofalus am y teithiau maen nhw’n eu cymryd a’r bobl maen nhw’n cwrdd â nhw.”
Ac mae canllawiau presennol Llywodraeth Cymru yn dweud: “Dylem i gyd feddwl yn ofalus am ble rydyn ni’n mynd a phwy rydyn ni’n cwrdd oherwydd y mwyaf o leoedd rydyn ni’n mynd a’r mwyaf o bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw, y mwyaf yw’r siawns sydd yna o ddal coronafeirws.
“Yn benodol, mae hefyd yn synhwyrol osgoi teithio i ardaloedd sydd â chyfradd uwch o achosion ac oddi arnynt os gallwch.”