Mae bachgen 16 oed wedi cael ei gyhuddo o feddiannu arf a chlwyfo’n fwriadol yn dilyn ymosodiad yn Nhreganna.

Ymddangosodd y bachgen o Dreganna, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol oherwydd ei oed, yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn (Tachwedd 28) ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa nes bydd gwrandawiad llys pellach.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Broad Street yn Nhreganna i adroddiadau am drywanu tua 10yb ddydd Mercher (Tachwedd 25).

Cafodd bachgen 17 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gydag anafiadau oedd ddim yn bygwth bywyd.

Mae tri arall gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau o’r ddalfa.

Ac mae dau fachgen, 17 a 15 oed, o Grangetown ac Riverside, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu, tra bod dyn 43 oed o Benarth yn cael ei ryddhau dan ymchwiliad.

Mae ymholiadau’n parhau.